Skip to main content

Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Plymwaith a Gwresogi) - Prentisiaeth Available in Welsh

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 3
EAL
Tycoch
Tair neu bedair blynedd
Trwy gyfrwng y Gymraeg
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Datblygwyd y cwrs hwn i roi cyfle i’r rhai mewn dysgu seiliedig ar waith ddangos a chynyddu eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth galwedigaethol o fewn eu crefft Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu.  

Anelir y cwrs at ddysgwyr sydd naill ai wedi cyflawni cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig neu a fydd yn cwblhau dysgu ac asesiadau Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn ystod eu prentisiaeth. Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi modd i ddysgwyr fynd ymlaen i astudio cyrsiau Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu Lefel 3 eraill sy’n berthnasol i’r grefft o’u dewis.  

Bydd y cymhwyster Craidd Lefel 2 yn rhoi trosolwg i ddysgwyr o’r Diwydiant Adeiladu ochr yn ochr â chynnwys theori sy’n benodol i’r grefft a hyfforddiant ymarferol mewn plymwaith.  

Bydd Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Plymwaith a Gwresogi) Lefel 3 yn canolbwyntio ar unedau theori a fydd yn cynnwys dylunio, gosod, cynnal a chadw ac atgyweirio systemau domestig cymhleth. Bydd dysgwyr hefyd yn cwblhau hyfforddiant ymarferol mewn lleoliad gweithdy a byddan nhw’n casglu tystiolaeth ymarferol addas gyda’u cyflogwr.  

Gwybodaeth allweddol

Mae’r llwybr prentisiaeth yn addas i ddysgwyr sydd: 

  • Yn 16+ oed sy’n gweithio yn y grefft ar hyn o bryd 
  • Wedi pasio’r holl asesiadau mynediad sy’n berthnasol i’r sector (lle y bo’n briodol)  
  • Wedi cyflawni un neu fwy o’r canlynol (neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig):  
    • Cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig   
    • Cymhyster Lefel 2 Dilyniant mewn Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu*   
    • Diploma Cenedlaethol Bagloriaeth Cymru  
    • Gradd A*-C ar lefel TGAU ym mhob un o’r canlynol: - pwnc cyfathrebu, mathemateg a naill ai pwnc gwyddoniaeth neu bwnc technegol (e.e. Dylunio a Thechnoleg, Electroneg) 
    • Gradd A*-C mewn CBAC TGAU Amgylchedd Adeiledig  
    • Cymhwyster Lefel 2 Mynediad i Beirianneg Gwasanaethau Adeiladu a/neu gymwysterau cyfwerth. 

09:00 – 19:30, 1 diwrnod yr wythnos  

Cymysgedd o waith cwrs, asesiadau ymarferol, ac arholiadau ar-lein.  

Strwythur asesu   

I ennill y cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol: 

  • Blwyddyn 1 – Craidd mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu 
  • Blwyddyn 2 - Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Plymwaith a Gwresogi (Canolradd) 
  • Blwyddyn 3 - Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Lefel 3) – Plymwaith a Gwresogi (Uwch).

Ym Mlwyddyn 4 –  

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr gwblhau un o’r llwybrau dewisol o’r canlynol:  

1. Tanwydd Ffosil – Nwy Naturiol (mae hwn yn cyd-fynd â safonau asesu IGEM IG1 ac ACS)  

2. Technolegau Amgylcheddol (mae hwn yn cyd-fynd â gofynion MCS) 

Bydd dysgwyr sydd heb gwblhau’r cymhwyster Sylfaen Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn dechrau’r cwrs ym Mlwyddyn 1 ac yn cwblhau’r cymhwyster Craidd Lefel 2 mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu. Bydd dysgwyr sydd wedi cwblhau’r cymhwyster Sylfaen mewn Adeiladu a Pheirianneg Gwasanaethau Adeiladu yn dechrau’r cwrs ar Flwyddyn 2 ac yn dechrau Lefel 3 Peirianneg Gwasanaethau Adeiladu (Gwresogi a Phlymwaith).