Skip to main content

Mathemateg, Gwyddoniaeth a’r Gwyddorau Cymdeithasol

Mae amrywiaeth eang o bynciau Safon Uwch ar gael yn y maes hwn. 

Bydd rhai yn gyfarwydd, ond bydd eraill yn newydd i fyfyrwyr. Er enghraifft, bydd llawer ohonoch wedi astudio Daearyddiaeth yn yr ysgol ond efallai byddwch chi am wybod mwy am Ddaeareg, Seicoleg a Chymdeithaseg.

Mae’r cyrsiau hyn yn cynnig ystod eang o gyfleoedd gyrfa cyffrous ac amrywiol ac maen nhw’n darparu platfform ardderchog ar gyfer astudiaethau academaidd pellach. 

Mae cyrsiau TGAU hefyd ar gael mewn rhai pynciau i’r rhai sydd am astudio’n rhan-amser.

Cynhelir sesiynau ymarferol mewn labordai modern, llawn cyfarpar. Mae myfyrwyr yn cael eu hannog i gymryd rhan mewn cystadlaethau cenedlaethol ac maen nhw’n perfformio’n dda bob blwyddyn.

Edrychwch ar ein cyrsiau Mathemateg, Gwyddoniaeth a Gwyddorau Cymdeithasol

Newyddion