Skip to main content

Gadael Gofal (Addysg Uwch)

Swyddog Dynodedig: Cathy Thomas
01792 890 772
07946 373 455
cathy.thomas@gcs.ac.uk

Ydych chi’n Blentyn sy’n Derbyn Gofal neu yn Blentyn sy’n Gadael Gofal a hoffai gofrestru ar gwrs Addysg Uwch yng Ngholeg Gŵyr Abertawe? Neu, ydych chi’n cefnogi Plentyn sy’n Derbyn Gofal neu Blentyn sy’n Gadael Gofal a hoffai fynychu darpariaeth AU Coleg Gŵyr Abertawe?

Cam 1

Meddyliwch am y cyrsiau yr hoffech eu dilyn:

  • Edrychwch ar ein cyrsiau AU
  • Dylid cyfeirio ymholiadau cyffredinol am AU at ein Rheolwr AU Ryan Jarvis - ryan.jarvis@gcs.ac.uk
  • Dylid trosglwyddo unrhyw ymholiadau cais i Beth Hughes - bethan.hughes@gcs.ac.uk
  • Os oes angen gwybodaeth benodol arnoch ynghylch y cyrsiau, ffoniwch 01792 284000 a byddwn yn gallu darparu cyfeiriad e-bost ar gyfer darlithydd y cwrs AU.

Efallai y byddwch am ddod i’r canlynol hefyd:

  • Nosweithiau agored
  • Ewch am daith o gwmpas Canolfan Prifysgol
  • Digwydiad pontio – mae’r digwyddiad hwn yn arddangos y cymorth sydd ar gael yn y Coleg a sut y gall helpu pobl ifanc i bontio i’r Coleg. Mae ar gael i unrhyw sefydliadau sy’n cefnogi pobl ifanc. Mae croeso i bobl ifanc hefyd.

Cam 2
Pan fyddwch wedi penderfynu ar eich cwrs bydd yn rhaid i chi wneud cais drwy UCAS

Cam 3
Gwnewch gais am eich cyllid myfyrwyr – gallech chi fod yn gymwys i gael benthyciadau a/neu grantiau i helpu gyda threuliau. Yn ogystal, gallwch dderbyn bwrsari hyd at £1,000 (os byddwch yn bodloni gofynion penodol).

​Fel myfyriwr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe gallwch gael cymorth lles gan gynnwys:

  • tiwtor personol a
  • Cymorth 1-i-1 gan Swyddog Cymorth Myfyrwyr ar gyfer unrhyw bryderon sydd gennych yn y Coleg, e.e. help gyda chyllidebu, dyled, gorbryder, iselder, pryderon perthynas, cam-drin domestig, gwneud ffrindiau, diffyg hyder, gwybodaeth am les – yn gyffredinol unrhyw beth a fyddai’n effeithio arnoch o ran ennill eich cymhwyster.

Gallwch gael mynediad at gymorth dysgu ychwanegol hefyd gan gynnwys:

  • Cymorth dyslecsia, cymorth yn y dosbarth, cymorth anabledd neu amser ychwanegol mewn arholiadau
  • Cymorth sgiliau astudio ac
  • Cwnsela.

Cysylltwch â ni, rydym yn edrych ymlaen at glywed gennych ac yn gobeithio eich helpu chi neu’ch person ifanc wrth bontio i Goleg Gŵyr Abertawe.