Skip to main content
Medical tutorial programme

Rhaglen Diwtorial Feddygol

Bydd myfyrwyr sydd wedi mynegi diddordeb yn y gwyddorau meddygol, milfeddygaeth a fferylliaeth yn cael sesiynau tiwtorial wythnosol sy’n canolbwyntio ar yrfaoedd, cysgodi gwaith, siaradwyr gwadd a cheisiadau i’r brifysgol. Maen nhw hefyd yn rhoi cyfle i fyfyrwyr drafod materion moesegol cyfredol a datblygiadau meddygol a chael cyngor ar dechnegau cyfweliad.

Gall myfyrwyr gael profiad cyfweliad a chymorth gyda’u cwrs gan gynfyfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe sydd bellach yn gymwysedig ac yn symud ymlaen yn eu gyrfaoedd.

Mae gan y Coleg gysylltiadau cryf ag ysbytai lleol a darparwyr gofal eraill ac mae anerchiadau rheolaidd gan feddygon ymgynghorol a meddygon teulu.