Skip to main content

Ieithoedd

Mae dysgu iaith newydd, neu wella’r sgiliau sydd eisoes gennych, yn ddiddorol ac yn ysgogol. Mae cymhwyster mewn ieithoedd yn gallu arwain at amrywiaeth o yrfaoedd fel cyfieithu, rheoli gwesty, marchnata a chysylltiadau cyhoeddus neu newyddiaduraeth.

Rydym yn cynnig cyrsiau Safon Uwch amser llawn mewn Saesneg, Cymraeg, Ffrangeg a Sbaeneg ac mae myfyrwyr wedi symud ymlaen i brifysgolion ledled y DU a thramor.

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn cwrs rhan-amser, cynigiwn gyrsiau Ffrangeg i Ddechreuwyr a Sbaeneg i Ddechreuwyr yn ogystal â modiwlau Ffrangeg amrywiol ar-lein.

Dylai’r rhai sydd am astudio cwrs Cymraeg edrych ar gyrsiau Cymraeg Prifysgol Abertawe

Cyrsiau Ieithoedd

Newyddion

Taylor yn mynd i’r Gelli

Taylor yn mynd i’r Gelli

Mae’r myfyriwr o Goleg Gŵyr Abertawe Taylor Williams wedi cael lle ar Brosiect y Bannau Gŵyl y Gelli, preswyliad gweithdy am ddim i bobl 16-18 sydd â diddordeb mewn ysgrifennu.

Sgwennwyr Cymreig yn ysbrydoli myfyrwyr

Bu myfyrwyr Lefel A Saesneg Coleg Gŵyr Abertawe yn cymryd rhan a chael eu hysbrydoli mewn gweithdy arbennig gyda sgwennwyr Cymreig.