Skip to main content
GCS Honours Programme (International)

Rhaglen Anrhydeddau CGA

Anrhydeddau CGA yw ein rhaglen cyfoethogi a chymorth academaidd, sy’n rhoi sgiliau ychwanegol i fyfyrwyr a fydd yn eu helpu i wella perfformiad academaidd, yn ogystal â chynhyrchu ceisiadau mwy cystadleuol i’r Prifysgolion gorau oll.

Mae’r rhaglen yn dechrau ym Mlwyddyn 12, wedi’i hamserlennu ochr yn ochr â’ch astudiaethau Safon Uwch, a bydd gweithdai dosbarth meistr a chyfleoedd dysgu uwch, mewn pwnc dewisol, yn cael eu cynnig i’r rhai sydd wedi cofrestru.

Mae llwyddiannau ein rhaglenni datblygu yn cael eu hadlewyrchu gan y nifer fawr o gyn-fyfyrwyr CGA sy’n symud ymlaen i’r Prifysgolion gorau. Cafodd 227 o fyfyrwyr CGA leoedd mewn Prifysgol Russell Group yn 2021, cyflawniad rhagorol ar draws y Coleg.

Sut mae Rhaglen Anrhydeddau CGA yn cael ei haddysgu?

Sesiynau Tiwtorial Her Academaidd:

  • Mae’r sesiynau hyn yn greiddiol i’r rhaglen, ac yn cynnwys sesiynau dan arweiniad tiwtor sy’n canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau meddwl yn feirniadol, darllen yn feirniadol a sgiliau ymchwil yn ymwneud â’ch dewis bwnc. Bydd y tiwtor yn angerddol am y pwnc ac yn barod i herio eich potensial academaidd.

Datblygu Sgiliau Hunanddysgu:

  • Byddwch chi’n derbyn Dyddiadur Academaidd Myfyriol a fydd yn cael ei ddiweddaru gyda’ch dadansoddiad beirniadol eich hun a’ch syniadau am eich pwnc, i gyfeirio ato yn ystod trafodaeth gyda chyfoedion sydd â meddylfryd tebyg i chi yn sesiynau tiwtorial y Rhaglen Anrhydedd. Dyma’r ffordd ddelfrydol o baratoi ar gyfer dysgu mewn seminarau yn y Brifysgol, lle disgwylir hunanddysgu, dadansoddi annibynnol a thrafodaeth gyda’ch cyfoedion am eich pwnc.

Amserlen y Rhaglen

Blwyddyn 12:

  • Awst: Sesiwn Sefydlu – Cyflwyniad i Raglen Anrhydedd CGA a chyfle i drafod dewisiadau pwnc gyda’r Tîm Anrhydeddau
  • Medi: Ceisiadau Anrhydeddau CGA yn agor a nodi myfyrwyr. Dilynir hyn gan sesiynau rhagarweiniol i bynciau dewisol i sicrhau eich bod wedi gwneud y dewis cywir ar gyfer eich gweithgareddau academaidd
  • Tachwedd - Chwefror: Sesiynau Tiwtorial Her Academaidd yn dechrau gyda siaradwyr gwadd ar gyfer meddygon
  • Chwefror - Mehefin: Sesiynau Tiwtorial Her Academaidd yn parhau gyda chymorth ychwanegol ar gyfer ysgrifennu Datganiad Personol a pharatoi profion derbyn

Blwyddyn 13:

  • Awst: Cyfarfodydd unigol gydag ymgeiswyr mynediad cynnar a recriwtio terfynol yr holl fyfyrwyr sy’n dymuno gwneud cais i Rydychen neu Gaergrawnt
  • Medi - Tachwedd: Paratoi ar gyfer Prawf Derbyn, gan gynnwys BMAT ac UCAT. Dechrau paratoi ar gyfer ffug gyfweliadau Ymgeiswyr Meddygol Rhydychen a Chaergrawnt. Cynhelir y rhain ym mis Tachwedd/Rhagfyr
  • Hydref: Dyddiad cau Ymgeiswyr Mynediad Cynnar UCAS (pob cwrs ym Mhrifysgol Rhydychen a Phrifysgol Caergrawnt; a Meddygaeth, Deintyddiaeth a Gwyddor Filfeddygol ym mhob prifysgol)
  • Ionawr - Ebrill: Cymorth parhaus i gadarnhau cynigion prifysgol 

Mae gofynion mynediad penodol a chostau cysylltiedig â’n Rhaglen Anrhydeddau CGA. E-bostiwch international@gcs.ac.uk i gael manylion.