Skip to main content
Accommodation for International students

Homestay ar gyfer myfyrwyr Rhyngwladol

Beth mae homestay ei gynnwys?

Bydd gan fyfyrwyr eu hystafell wely eu hunain, gyda lle storio, lle astudio, Wi-Fi ac allwedd i’r tŷ. Darperir brecwast a phrydau bwyd gyda’r hwyr bob dydd. Bydd rhaid i fyfyrwyr ddilyn rheolau cyrffyw a rheolau presenoldeb y Coleg.

Teuluoedd homestay

Mae ein teuluoedd Homestay wedi cael eu dewis, eu fetio a’u monitro’n ofalus gan ein tîm rhyngwladol ac mae pob aelod o’r teulu dros 18 oed wedi cwblhau gwiriad Gwasanaethau Datgelu a Gwahardd (DBS) yn llwyddiannus yn www.gov.uk/dbs. Mae llawer o’n teuluoedd croesawu yn brofiadol iawn ac wedi mwynhau rhannu eu cartrefi â myfyrwyr o bob cwr o’r byd.

Gallai’r teulu croesawu fod yn gwpl neu yn unigolyn. Mae plant gan rai ohonynt ac mae anifeiliaid anwes gan rai hefyd. Mae proffil gan bob teulu fydd yn cynnwys manylion eu proffesiwn, eu teulu, eu diddordebau a’r lleoliad.

Mae nifer o’n teuluoedd croesawu yn brofiadol iawn ac wedi mwynhau rhannu eu tai â myfyrwyr o bedwar ban byd ac fel arfer maen nhw’n cadw mewn cysylltiad â’i gilydd am flynyddoedd lawer. Mae teuluoedd croesawu yn gyswllt hanfodol rhyngoch chi, y Coleg a’ch teulu gartref a byddan nhw’n eich cynorthwyo i gael annibyniaeth a sgiliau cymdeithasol sydd eu hangen ar gyfer bywyd yn y coleg a’r brifysgol yn y DU.

Ar ôl ymgartrefu byddwch chi a’ch teulu croesawu yn mynd trwy Ffurflen Gytundeb Homestay, sy’n nodi rolau a chyfrifoldebau’r teulu a’r Coleg a’ch rolau a’ch cyfrifoldebau chi a gaiff ei llofnodi gan bob parti. Mae’r rhain yn bwysig i bawb wrth i chi ymgartrefu yn eich amgylchedd newydd.

Cymorth pellach

Mae’r tîm rhyngwladol bob amser ar gael i’ch helpu ag unrhyw broblemau sy’n achosi pryder i chi, p’un ai ydynt yn ymwneud ag Homestay, astudiaethau, salwch neu faterion cyffredinol pob dydd. Eich diogelwch, eich astudiaethau a’ch hapusrwydd yw ein blaenoriaeth ni.

Canllaw Homestay i Deuluoedd Croesawu
Canllaw Homestay i Fyfyrwyr

Hoffech chi fod yn deulu croesawu? 

Ffurflen gais darparwr homestay

Anfonwch e-bost atom international@gcs.ac.uk neu ffoniwch ni (01792) 284 007 i gael rhagor o wybodaeth.