Skip to main content

Tîm niwroamrywiaeth (dysgwyr heb ddatganiad)

Os nad oes gennych ddatganiad ond mae angen cymorth arnoch o hyd, mae angen i chi gysylltu â’r tîm niwroamrywiaeth. Po fwyaf o wybodaeth sydd gennym amdanoch, yr hawsaf fydd hi i ni roi cymorth i chi. Cewch gyfle i ddweud wrthym pa gymorth sydd ei angen arnoch pan fyddwch yn cofrestru. Mae cofrestru hefyd yn adeg da iawn i ddweud wrthym am unrhyw gymorth arholiad a gawsoch yn yr ysgol.

Cydlynydd Niwroamrywiaeth: Emma Jones 
Emma.LeanneJones@gcs.ac.uk

Mae’r tîm hwn yn cynnwys athrawon cymorth arbenigol sy’n eich cynorthwyo os oes gennych gyflwr niwroamrywiol. Er enghraifft, anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD), awtistiaeth, dyslecsia, dyscalcwlia, anhwylder datblygu iaith (DCD)/dyspracsia ac anhwylder datblygu iaith (DLD). 

Mae Arbenigwr Cymorth Niwroamrywiaeth (NSS) gan bob cyfadran yn y Coleg. Byddwch chi’n gallu trafod eich anghenion a byddan nhw’n rhoi cymorth i chi a’ch darlithwyr drwy gydol y cwrs.

Mae’r canolfannau niwroamrywiaeth yn darparu lle tawel i chi weithio ynddo sy’n gallu gweithredu fel porth i gymorth ychwanegol fel ymarferwyr cwnsela ac iechyd i’ch helpu gyda’ch lles emosiynol. 

Mae cyfrifiaduron ar gael yn y canolfannau ac mae myfyrwyr yn cael eu hannog i fynd i sesiynau galw heibio ar gyfer cymorth y tu allan i’r dosbarth gydag athro arbenigol. Mae sawl hyb cymorth ar draws y Coleg hefyd. Mae’r rhain yn lleoedd tawel dynodedig lle gallwch chi gwblhau’ch gwaith neu gael hoe yn ystod eich diwrnod prysur. 

Cydlynydd Amrywiaeth: Emma Jones 
Emma.LeanneJones@gcs.ac.uk

Cwestiynau Cyffredin

Fel Coleg, byddwn ni’n eich sgrinio ar gyfer dyslecsia ac, er na fydd hyn yn rhoi diagnosis i chi, bydd yn rhoi hawl i chi gael yr un cymorth ag y byddai rhywun â diagnosis yn ei gael.

Bydd y tîm niwroamrywiaeth yn teilwra cymorth i’ch anghenion unigol. Gallai hyn gynnwys cymorth un-i-un y tu allan i’r ystafell ddosbarth, help i ysgrifennu aseiniadau neu gymryd nodiadau, cymorth yn y dosbarth, paratoi ar gyfer arholiadau a chreu Proffil Un Dudalen.

Os ydych chi fel arfer yn defnyddio gliniadur i wneud gwaith, mae hyn yn opsiwn. Bydd angen tystiolaeth feddygol arnoch neu dystiolaeth o’ch lleoliad addysgol blaenorol ar gyfer hyn.

Eich dewis chi fydd derbyn y cymorth a gynigir gan y Coleg. Does dim rhaid i chi dderbyn y cynnig ond, os yw’n cael ei gynnig, mae’n golygu bod gennych hawl i’w gael er mwyn sicrhau bod gennych yr un cyfleoedd â’r holl ddysgwyr. Cyn gwrthod cymorth, mae’n syniad da trafod eich opsiynau gyda’r tîm oherwydd gallwn ni deilwra’r cymorth i weddu i’ch anghenion penodol. Efallai y bydd angen cymorth arnoch ar adegau penodol o’r flwyddyn.

Mae’n bosibl y bydd gennych hawl i gael cymorth ychwanegol ar gyfer arholiadau fel amser ychwanegol, copïwr neu ddarllenydd. Os cawsoch eich asesu yn yr ysgol, gall yr wybodaeth hon gael ei defnyddio yn y Coleg i barhau â’r cymorth. Os nad ydych wedi cael eich asesu ar gyfer hyn, gall y Coleg gynnal yr asesiadau hyn.

Gallwch. Fel Coleg rydyn ni’n hapus i asesu unrhyw ddysgwr sy’n teimlo yr hoffai wybod rhagor am ei anghenion. Gall hyn nodi pa gymorth sy’n fwyaf addas i chi a’r arddulliau dysgu sy’n well gennych.

Os cawsoch ddatganiad gan yr Awdurdod Lleol yn yr ysgol, dewch ag ef gyda chi.

Dylech roi gwybod i’r Coleg adeg cofrestru eich bod yn cael amser ychwanegol neu gymorth arall mewn arholiadau. Os cawsoch gymorth yn yr arholiadau, bydd angen i chi gasglu’ch Ffurflen 8 o’r Cydlynydd ADY yn eich ysgol fel y gallwn ni weld eich hanes.

Siaradwch â’ch tiwtor neu aelod o staff y tîm niwroamrywiaeth i drefnu sesiwn cymorth.

Yn dibynnu ar eich anghenion efallai y bydd yr opsiynau canlynol ar gael i chi: 

  • Cynorthwyydd addysgu 
  • Cymorth llythrennedd un-i-un
  • Ysgrifennu aseiniadau 
  • Prawfddarllen
  • Sgiliau adolygu
  • Sgiliau cymdeithasol
  • Cymorth gorbryder
  • Cymorth technoleg.

Os oes angen cymorth pontio ychwanegol arnoch, rydyn ni’n fwy na pharod i drefnu ymweliadau unigol. Cysylltwch â’r canlynol: 

Aiden Spiller: Aiden.Spiller@gcs.ac.uk  
Ffion Davies: Ffion.Davies@gcs.ac.uk