Skip to main content
Myfyrwyr rhyngwladol o flaen Plas Sgeti

Sut i wneud cais (Rhyngwladol)

Dilynwch y pum cam hyn i wneud cais i astudio yng Ngholeg Gŵyr Abertawe

  1. Llenwch a chyflwynwch ffurflen gais ar-lein neu lawrlwytho, llenwi, cadw ac e-bostio ffurflen gais i international@gcs.ac.uk

    • Copi lliw o dudalen llun eich pasport
    • Trawsgrifiadau academaidd dros y 2 flynedd ddiwethaf (a gyfieithwyd i’r Saesneg ac wedi’u llofnodi a’u stampio gan eich ysgol)
    • IELTS ar gyfer tystysgrif UKVI (os ar gael adeg gwneud cais)
    • Dogfennau ategol (tystlythyrau, tystysgrifau cyflawniad academaidd/personol ac ati)
    • E-bostiwch y dogfennau canlynol i international@gcs.ac.uk
    • Yna, byddwn yn trefnu cyfweliad ar-lein i drafod eich cais.
    • Os bydd eich cais yn cael ei gymeradwyo, byddwn yn rhoi cynnig amodol i chi.
    • Os byddwch yn derbyn ac yn bodloni ein hamodau, byddwn yn rhoi rhif Cadarnhad Derbyn i Astudio (CAS) i chi a fydd ei angen arnoch ar gyfer eich cais fisa myfyriwr UKVI*.

    *Byddwn yn rhoi CAS i chi dim ond os:

    • Rydych wedi diwallu gofynion mynediad academaidd y Coleg
    • Rydych wedi talu’r swm o ffioedd dysgu y gofynnwyd amdano ar eich cynnig amodol
    • Rydych yn gwneud cais o fewn 3 mis o ddyddiad dechrau’ch cwrs
    • Rydych wedi rhoi tystiolaeth i ni eich bod yn diwallu gofynion cais fisa myfyriwr UKVI h.y. prawf o gyllid cynhaliaeth ac archwiliadau iechyd (os yw’n briodol).