Skip to main content

Tirwedd a garddwriaeth

Byddwch yn barod i balu i fyd cyffrous tirlunio! 

Mae Coleg Gŵyr Abertawe’n cynnig dau gwrs amser llawn mewn garddwriaeth a thirlunio. 

Mae’r Diploma Lefel 1 mewn Tirlunio a Garddio yn cyflwyno myfyrwyr i agweddau ar weithio yn yr awyr agored. Byddant yn cael cyfle i adeiladu llwybrau a phatios, tyfu planhigion a llysiau a defnyddio offer arbenigol. 

Mae’r Diploma Lefel 2 mewn Sgiliau Garddwriaeth Ymarferol yn caniatáu myfyrwyr i ddatblygu eu gwybodaeth ymhellach, gan ymgymryd â modiwlau sy’n ymwneud â thirlunio a dylunio gerddi. Mae’r cyrsiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer unigolion sy’n hoffi torchi eu llewys yn yr awyr agored! Yn ogystal â threulio amser ar y campws, bydd myfyrwyr yn treulio amser yn y gymuned leol mewn lleoedd fel Coedwig Penllergaer a Pharc Singleton.