Skip to main content

Arlwyo a Lletygarwch

Mae gan fyfyrwyr ar y cyrsiau Coginio Proffesiynol y fantais o weithio mewn amgylchedd proffesiynol wrth iddynt baratoi a gweini bwyd yn y Vanilla Pod, y bwyty hyfforddi ar Gampws Tycoch.

Mae’r cyrsiau hyn yn paratoi myfyrwyr ar gyfer gyrfa ym maes arlwyo a lletygarwch. Mae myfyrwyr yn cystadlu’n llwyddiannus yn rheolaidd mewn cystadlaethau rhanbarthol a chenedlaethol.

Cynigir cyrsiau byr, sy’n para dim ond pum wythnos, mewn coginio Eidalaidd, Ffrengig neu Asiaidd.

Dros y ddwy flynedd ddiwethaf mae 100% o’n myfyrwyr Lefel Mynediad wedi symud ymlaen i lefel 1.

Bydd cyflawni Lefel 2/3 yn agor cyfleoedd cyflogaeth mewn lletygarwch cyffredinol, paratoi bwyd a choginio. Er enghraifft, cafodd bron traean o’n myfyrwyr Lefel 2 waith yn y diwydiant ar ôl cwblhau eu cwrs.

Newyddion Arlwyo a Lletygarwcg

Cyn-fyfyriwr yn ennill teitl Dysgwr VQ Lefel Ganolradd y Flwyddyn 2019

Cyn-fyfyriwr yn ennill teitl Dysgwr VQ Lefel Ganolradd y Flwyddyn 2019

Mae cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe Collette Gorvett wedi cael ei henwi yn Ddysgwr Lefel Ganolradd y Flwyddyn yng Ngowbrau VQ 2019.
Aur a bri i Dîm y DU

Aur a bri i Dîm y DU

Mae Tîm y DU – sy’n cynnwys prentisiaid a myfyrwyr ifanc gorau’r genedl –wedi dychwelyd o Rowndiau Terfynol Euroskills ym Mwdapest yn gyforiog o fedalau a bri. Yn eu plith mae cyn-fyfyriwr Arlwyo a Lletygarwch o Goleg Gŵyr Abertawe.
Myfyrwyr arlwyo yn paratoi i gynrychioli Cymru

Myfyrwyr arlwyo yn paratoi i gynrychioli Cymru

Mae dau fyfyriwr Lletygarwch o Goleg Gŵyr Abertawe yn barod i gynrychioli Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol WorldSkills UK LIVE.