Skip to main content

Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach - Diploma Lefel 1

Amser-llawn
Lefel 1
Diploma
Tycoch
One year
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

Mae’r cwrs lefel un hwn mewn Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach yn addas ar gyfer myfyrwyr sydd eisiau derbyn mwy o gymorth mewn meysydd megis llythrennedd a mathemateg. Bydd y cwrs hefyd yn cwmpasu testunau fel cymdeithaseg, seicoleg, anatomi a ffisioleg sylfaenol. Bydd hefyd yn gweithredu fel sail i’r rhaglenni lefel 2 a 3 a bydd cynnwys y cwrs yn paratoi myfyrwyr ar gyfer symud ymlaen i’r lefel nesaf.

Gwybodaeth allweddol

Disgwylir i fyfyrwyr feddu ar gymhwyster Mynediad Lefel 3 (neu gywerth) mewn Saesneg. 

Bydd myfyrwyr yn ymgymryd ag asesiad mynediad i bennu eu lefelau academaidd os nad yw’r cymwysterau uchod yn addas.    

Cwrs amser llawn am flwyddyn, tri diwrnod yr wythnos.

Asesu

Bydd asesiadau’n cynnwys traethodau, arholiadau, adroddiadau, cyflwyniadau, llyfrynnau a chwaraeo rôl.  

Mae’r asesiadau’n pennu graddau ‘pasio’ neu ‘methu’ a bydd myfyrwyr yn derbyn llawer o gymorth i sicrhau eu bod yn llwyddo.

Mae pasio'r cwrs hwn yn caniatáu i fyfyrwyr symud ymlaen i'n cwrs diploma Sgiliau ar gyfer Astudio Pellach lefel dau.