Skip to main content

Cyflwyniad i offer AI a Canva

GCS Training
Llys Jiwbilî
Pump awr
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd y sesiwn hon yn eich cyflwyno i offer AI pwerus a Canva. Cynlluniwyd y sesiwn i helpu elusennau a busnesau bach greu cynnwys proffesiynol a deniadol. Byddwch yn darganfod sut i ddefnyddio AI i greu cynnwys, derbyn cymorth ar sut i wella eich elusen neu fusnes ac yn dysgu sut y gall Canva eich helpu i greu graffeg, cyflwyniadau a deunyddiau marchnata gwych. Trwy ymgymryd â hyfforddiant ymarferol, byddwch yn dysgu sut i greu cynnwys cymhellol megis ffeithluniau, cynnwys ar gyfer cyfryngau cymdeithasol, cyflwyniadau a chylchlythyrau, gan roi hwb i bresenoldeb ac ymgysylltiad ar-lein eich sefydliad. P’un ai a ydych am ennill sgiliau newydd neu’n dymuno gwella eich sgiliau presennol, bydd yr hyfforddiant yn eich galluogi i weithio’n gallach, nid yn galetach!

Gwybodaeth allweddol

Y gallu i ddefnyddio cyfrifiadur ar lefel sylfaenol.

Darpariaeth wyneb yn wyneb ar gampws Llys Jiwbilî.

Gweithdai digidol eraill a ddarperir gan Goleg Gwyr Abertawe.

Introduction to AI tools and Canva
Cod y cwrs: YA344 DLC3
23/07/2024
Llys Jiwbilî
1 day
Tue
10am-3pm
£0
Amhriodol