Skip to main content

Cyfrifoldeb Cymdeithasol Corfforaethol a Chynaliadwyedd mewn Rheoli Cyfleusterau

GCS Training
Lefel 3
Sketty Hall
Un diwrnod

Trosolwg

Bydd yr uned yn mynd i’r afael â beth yw cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a chynaliadwyedd a’r cyfraniad y gall rheolwyr cyfleusterau ei wneud. Bydd hefyd yn archwilio’r effaith y gall drefniadau sefydliadol ar gyfer rheoli cyfleusterau ei gael ar amgylchedd allanol y sefydliad.  

Byddwch yn datblygu dealltwriaeth o natur cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol a sut i sicrhau bod cyfleusterau a gwasanaethau yn cael eu cynnig mewn ffyrdd sy’n ystyried cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Byddwch yn ystyried sut y gellir darparu a defnyddio ynni sydd ei angen ar gyfer cyflenwadau cyfleusterau a gwasanaethau, gan archwilio ffyrdd o hybu cynaliadwyedd.

Gwybodaeth allweddol

Byddwch yn rheolwr llinell / goruchwyliwr ym maes rheoli cyfleusterau. Mae’r cwrs hefyd yn addas ar gyfer staff sy’n dymuno symud ymlaen i rôl rheoli / goruchwylio.

Darpariaeth wyneb yn wyneb - Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

Tystysgrif Lefel 3 mewn Rheoli Cyfleusterau 
Diploma Lefel 3 mewn Rheoli Cyfleusterau 
Rheoli Cyfleusterau Lefel 3 - Prentisiaeth 

Yn ystod y cyfweliad cyn y cwrs, byddwch yn penderfynu a hoffech ddilyn trywydd unedau achrededig neu dystysgrif presenoldeb. Ar gyfer yr achrediad, bydd angen i chi gwblhau aseiniad ysgrifenedig ar gyfer yr uned. 

Corporate Social Responsibility and Sustainability in Facilities Management
Cod y cwrs: YA1931 DLC
20/06/2024
Plas Sgeti
1 day
Wed
10am-4.30pm
£0
Lefel 3
Corporate Social Responsibility and Sustainability in Facilities Management
Cod y cwrs: YA1931 DLC2
18/07/2024
Plas Sgeti
1 day
Wed
10am-4.30pm
£0
Lefel 3