Skip to main content

Cymorth Gofal Iechyd Clinigol Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
AGORED
Llys Jiwbilî
15 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd uwch sy’n darparu cymorth nyrsio penodol i unigolion sy’n cyrchu gwasanaethau iechyd Cymru dan gyfarwyddyd ymarferydd cofrestredig proffesiynol. Hefyd, mae’r cwrs yn sefydlu sail ar gyfer parhau i ddatblygiad proffesiynol cynorthwywyr gofal iechyd.

I ymgymryd â’r cymhwyster hwn, rhaid i ddysgwyr fod yn gyflogedig gan wasanaethau iechyd Cymru mewn rôl lle mae sgiliau clinigol yn rhan hanfodol o’u dyletswyddau. Cafodd y cymhwyster ei ddatblygu i wella llywodraethu arfer yng Nghymru trwy sicrhau ansawdd allanol.

Mae’r cymhwyster yn berffaith ar gyfer cynorthwywyr gofal iechyd uwch GIG Cymru, ac mae disgwyl i holl staff cymorth clinigol gael cyfle i gwblhau’r cymhwyster a/neu gyflawni elfennau ohono at ddibenion datblygiad proffesiynol parhaus. Gallant yna hwyluso unrhyw newidiadau mewn ymarfer dros amser.

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ymgeiswyr fod yn 18+ i astudio’r cymhwyster hwn a bydd angen iddynt fod yn gweithio mewn rôl lle mae gofal iechyd clinigol naill ai'n rhan o'u gwaith neu’n ymwneud yn llwyr ag ef.

Cyflwynir y cymhwyster hwn drwy gyfuniad o sesiynau a addysgir mewn dosbarthiadau a chymorth un-i-un. 

Bydd angen i ddysgwyr gwblhau portffolio cyfun o unedau gorfodol a dewisol, gan gwblhau o leiaf 60 credyd. 

Bydd gofyn i ddysgwyr greu portffolio tystiolaeth i arddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u cymhwysedd wrth ymarfer.  

Bydd ystod o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio, megis:

  • Arsylwadau uniongyrchol o ymarfer
  • Aseiniadau ysgrifenedig
  • Cwestiynau / trafodaethau llafar

Mae’r cymhwyster yn cynnwys unedau gorfodol a dewisol.

Unedau gorfodol

  • Dyletswydd Gofal
  • Iechyd a Diogelwch
  • Cyfathrebu
  • Lleihau heintiau 
  • Diogelu

Unedau Dewisol

  • Cynnal safonau ansawdd
  • Cymorth diwedd oes
  • Casglu samplau gwaed gwythiennol
  • Hyrwyddo iechyd meddwl a lles

  • Bydd dysgwyr sy'n cyflawni'r cymhwyster hwn yn gymwys i weithredu rolau gofal iechyd clinigol ar sgiliau Lefel 3
  • Nod y cymhwyster yw cynnig pwynt mynediad i addysg a sgiliau Lefel 4