Skip to main content

Gweithrediadau Logisteg Lefel 2 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 2
QCF
Llys Jiwbilî
12 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster Lefel 2 hwn yn addas i’r rhai sydd â phrofiad o’r sector logisteg a hoffai ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth. Mae ar gyfer ymgeiswyr sy’n gweithio neu sydd am weithio fel gweithiwr logisteg yn y sector logisteg.

Gwybodaeth allweddol

Addysgir y cymwysterau trwy ddysgu seiliedig ar waith, a fydd yn cynnwys sesiwn un-i-un bob 4-6 wythnos ar amser sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r cyflogwr. 

Unedau gorfodol

  • Iechyd a diogelwch yn y gweithle
  • Datblygu cysylltiadau gwaith effeithiol
  • Cynnal cyfraniad effeithiol at fusnes yn y sector logisteg
  • Cyfrannu at ddarpariaeth gwasanaeth cwsmeriaid

Unedau dewisol

  • Paratoi’r fan ar gyfer gyrru
  • Diogelu’r fan a’i llwytho
  • Paratoi’r cerbyd cymalog ar gyfer gyrru
  • Diogelu’r cerbyd cymalog a’i lwytho
  • Cael gwybodaeth am gasglu/dosbarthu’r llwyth
  • Storio nwyddau
  • Rhyddhau cerbydau ar gyfer tasgau pob dydd
  • Monitro symudiadau cerbydau

Er mwyn cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cael eu hasesu yn erbyn set o feini prawf perfformio a gwybodaeth sy’n deillio o’r Safonau Galwedigaethol Cenedlaethol i’r rhai sy’n gweithio mewn amgylchedd logisteg.

Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n creu e-bortffolio o’r dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgaredd ymarferol a wneir yn y gweithle er mwyn arddangos gwybodaeth a chymhwysedd.

Mae’r dulliau asesu yn cynnwys:

  • Cwestiynau ac ateb
  • Arsylwadau
  • Tystebau
  • Tystiolaeth seiliedig ar waith
  • Astudiaethau achos
  • Trafodaeth broffesiynol