Systemau Pwmp Gwres BPEC - Cymhwyster
Trosolwg
Mae’r cwrs hwn yn addas ar gyfer peirianwyr sy’n gweithio ym maes gwasanaethau adeiladu, a bydd dysgwyr yn datblygu a defnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen arnynt i osod, comisiynu, archwilio, gwasanaethu a chynnal a chadw systemau pwmp gwres - nad yn cael eu defnyddio mewn oergelloedd - mewn amgylchedd domestig.
Ar ôl cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, gall dysgwyr sicrhau achrediad MCS neu ymuno â chynlluniau gan unigolion cymwys i gofrestru gosodiadau.
Gwybodaeth allweddol
Bydd angen i ddysgwyr ddarparu tystiolaeth o gymhwysedd mewn:
- Rheoliadau dŵr/Is-ddeddfau dŵr (WRAS, BPEC, ERC neu gyfwerth)
- Systemau storio dŵr poeth domestig heb ei awyru (UVDHW) (ERS, BPEC neu gyfwerth)
- Effeithiolrwydd ynni ar gyfer gwresogi domestig (City and Guilds 6084 neu gyfwerth)
Efallai y byddwn yn cynnal cyfweliad byr gyda thiwtor y cwrs.
Cyflwynir y cwrs dros gyfnod o bedwar diwrnod, gan gynnwys un diwrnod asesu yng Nghanolfan Ynni Coleg Gŵyr Abertawe ar Gampws Tycoch.
- Systemau Dŵr Poeth Solar Thermol BPEC (NOS wedi'i fapio)
- Gosod a Chynnal a Chadw Nwy Naturiol ACS
- Gosod a Chynnal a Chadw Nwy ACS LPG
Asesir y cwrs trwy gyfres o arholiadau amlddewis ar-lein, ynghyd â chyfarwyddyd ac asesiad ymarferol.
Pris y cwrs yw £650, a fydd yn cynnwys cofrestru, llawlyfr a thystysgrif.
Mae’n hanfodol i ddysgwyr ddod â phrawf o bwy ydyn nhw (llun) ar ddiwrnod yr arholiad. Os na fyddant yn gwneud hyn, mae’n bosib na fyddant yn cael sefyll yr arholiad.