Skip to main content

Warysau a Storio Lefel 3 – Tystysgrif FfCCh

GCS Training
Lefel 3
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r cymhwyster Lefel 3 yn gyfle i’r rhai sy’n gweithio mewn rolau warysau a storio yn y sector logisteg ddatblygu a dangos eu cymhwysedd, eu sgiliau a’u gwybodaeth.

Mae’n fwyaf addas i unigolion a hoffai ddatblygu’r sgiliau a’r wybodaeth i oruchwylio mewn amgylchedd warws, a byddai’n fwy priodol i uwch aelod o dîm, arweinydd tîm neu’r rhai mewn rôl oruchwylio. 

Gwybodaeth allweddol

Addysgir y cymhwyster trwy ddysgu seiliedig ar waith, a fydd yn cynnwys sesiwn un-i-un bob 4-6 wythnos ar amser sy’n gyfleus i’r dysgwr a’r cyflogwr. 

Unedau gorfodol

  • Cyfrannu at ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid
  • Goruchwylio’r broses o dderbyn, storio a dosbarthu nwyddau
  • Darparu arweinyddiaeth ar gyfer eich tîm
  • Cymryd cyfrifoldeb am iechyd a diogelwch yn eich tîm

Unedau dewisol

  • Symud a/neu drin nwyddau
  • Gwirio lefelau stoc a’u cofnodi
  • Recriwtio, dethol a chadw cydweithwyr
  • Adeiladu a rheoli timau
  • Trefnu gweithrediadau logisteg i fodloni gofynion cwsmeriaid
  • Ymateb i broblemau mewn gweithrediadau logisteg
  • Rhyddhau cerbydau ar gyfer tasgau dyddiol
  • Monitro symudiadau cerbydau

Wrth i ddysgwyr symud trwy’r cymhwyster, byddan nhw’n creu e-bortffolio o’r dystiolaeth sy’n digwydd yn naturiol o’r gweithgareddau ymarferol a wnaed yn y gweithle i ddangos gwybodaeth a chymhwysedd.

Mae dulliau asesu yn cynnwys:

  • Cwestiynau ac atebion
  • Arsylwadau
  • Tystebau
  • Tystiolaeth seiliedig ar waith
  • Astudiaethau achos
  • Trafodaeth broffesiynol