Skip to main content

Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
AGORED
Llys Jiwbilî
18 months
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnydiwr yn brentisiaeth a ariennir yn llawn ar gyfer unigolion yn y gweithle sydd â chyfrifoldeb am ddylunio gwefannau, cymwysiadau a gwybodaeth ryngweithiol arall. Mae Dylunio sy’n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr yn golygu dylunio gan ystyried y defnyddiwr, lle mae timau dylunio a datblygu yn defnyddio data ar anghenion, nodau ac adborth defnyddwyr i greu gwefannau a chymwysiadau hynod ddefnyddiol a hygyrch. Mae pwnc mwy adnabyddus sef Profiad Defnyddiwr (UX) yn cael ei astudio o fewn y brentisiaeth hon.

Gellir defnyddio'r brentisiaeth i uwchsgilio staff newydd neu bresennol. Mae rolau addas yn cynnwys arbenigwr hygyrchedd, dylunydd cynnwys, strategydd cynnwys, dylunydd graffeg, dylunydd rhyngweithio, dylunydd gwasanaethau, ysgrifennwr technegol ac ymchwilydd defnyddwyr.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Bydd prentisiaethau’n cael eu haddysgu gan ddefnyddio dull cyfunol, gan gynnwys addysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein. Bydd dysgwyr yn cael tiwtor/aseswr penodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwyr a’r cyflogwr i sicrhau bod yr unedau a ddewisir yn addas ar gyfer eu rolau unigol a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/aseswr yn ymweld â’r dysgwr bob 4-6 wythnos i asesu cynnydd a gosod amcanion ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd dysgwyr yn cael gwaith prosiect seiliedig ar yr unedau o’u dewis, a bydd disgwyl iddynt gasglu tystiolaeth o’u rôl i ddangos y defnydd o’u sgiliau newydd. Efallai y bydd disgwyl i’r dysgwr fynychu seminarau neu weithdai yn ogystal â dysgu seiliedig ar waith, a fydd yn canolbwyntio ar yr elfen wybodaeth o’r rhaglen a chymorth i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Unedau gorfodol 

  • Dylunio cynnwys – gweithgareddau a dulliau
  • Prosiect dylunio sy’n canolbwyntio ar y defnyddiwr
  • Cynllun gwasanaeth – gweithgareddau a dulliau
  • Gwella darllenadwyedd adnoddau digidol
  • Ymchwil defnyddwyr – gweithgareddau a dulliau
  • Dwyieithrwydd mewn rhyngweithiadau defnyddwyr
  • Effaith niwroamrywiaeth ar hygyrchedd digidol
  • Effaith nam ar y golwg ar hygyrchedd digidol

Unedau dewisol 

  • Rheoli prosiect cymhwysiad TG
  • Codio
  • Meddalwedd pwrpasol
  • Profi systemau TG
  • Paratoi dogfennau a chyflwyniadau
  • Deall potensial TG
  • Iechyd a diogelwch mewn cyd-destun TG
  • Delweddu data ar gyfer busnes

Dylunio sy'n Canolbwyntio ar y Defnyddiwr Lefel 4 - Prentisiaeth