Skip to main content

Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Nod y cymhwyster yw datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr ymddygiadau a’r sgiliau sydd wrth wraidd rolau eiriolaeth annibynnol. Fe’i datblygwyd ar y cyd â rhanddeiliaid allweddol y sector, gan gynnwys Gofal Cymdeithasol Cymru ac Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar ymarfer ac mae’n asesu gwybodaeth y dysgwyr a’u cymhwysedd i ymarfer.

Mae Eiriolaeth Annibynnol yn cwmpasu gweithwyr mewn rolau statudol ac anstatudol, y gellir eu diffinio fel:

  • Statudol: y rhai y mae unigolion â hawl i’w cael yn ôl y gyfraith
  • Eiriolaeth Galluedd, Eiriolaeth Iechyd Meddwl Annibynnol 
  • Eiriolaeth Broffesiynol
  • Anstatudol: eiriolaeth seiliedig ar faterion a gynigir gan sefydliadau’r trydydd sector

Nid yw’r rhain yn hawl yn ôl y gyfraith, ond maen nhw’n cynnig llais i’r rhai sy’n teimlo bod ei angen arnynt. Mae hefyd yn cael ei adnabod fel eiriolaeth annibynnol ‘cyffredinol’, a allai gynnwys eiriolaeth annibynnol i bobl hŷn sy’n byw gartref, nid ydynt yn hysbys i wasanaethau cymdeithasol y mae angen eiriolwr arnynt.

Mae sefydliadau fel Age Cymru a Dewis – Canolfan Byw Annibynnol yn cynnig eiriolaeth anstatudol. 

Mae eiriolaeth annibynnol yn wahanol i sefydliadau statudol ac nid oes gwrthdaro. Felly, ni all eiriolwyr annibynnol weithio i’r sefydliadau y mae eu partneriaid eiriolaeth yn dymuno eu herio, gan gynnwys: 

  • Awdurdod Lleol: gan gynnwys gwasanaethau cymdeithasol/gwasanaethau ieuenctid/cartrefi gofal
  • Bwrdd Iechyd Lleol
  • Cartrefi gofal preifat/lleoliadau gwasanaethau sydd am ddarparu eiriolaeth ar gyfer eu preswylwyr

Gwybodaeth allweddol

Bydd yr holl ddarpar ddysgwyr yn cael asesiad/cyfweliad cychwynnol i drafod y cymwysterau a disgwyliadau’r cwrs gyda hyfforddwr/aseswr. 

Bydd angen i ddysgwyr fynychu hyd at 12 sesiwn a addysgir/sesiwn astudio ar gyfer dysgu, addysgu ac asesiad ffurfiannol, a fydd yn eu paratoi at asesiad crynodol ar gyfer y tasgau strwythuredig. 

Mae disgwyl y bydd dysgwyr yn hyfedr o ran defnyddio cyfrifiadur a rhaglenni cysylltiedig. Bydd dysgwyr yn defnyddio system portffolio electronig trwy gydol y cymhwyster.

Yn ogystal, bydd angen i ddysgwyr gwblhau tasgau ysgrifenedig a chadw portffolio o dystiolaeth fel y cyfarwyddwyd gan yr hyfforddwr/aseswr, yn ogystal â phecyn asesu a gaiff ei farcio’n fewnol. Bydd dysgwyr yn cael eu harsylwi wrth eu gwaith ar dri achlysur yn eu rôl, lle byddan nhw’n dangos sut maen nhw’n:

  • Cymhwyso egwyddorion eiriolaeth annibynnol yn eu gwaith
  • Cefnogi unigolion a/neu ofalwyr i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau
  • Cefnogi unigolion a/neu ofalwyr i wneud penderfyniadau
  • Cefnogi unigolion a/neu ofalwyr i herio penderfyniadau

Ar ôl cwblhau tasgau A-C yn llwyddiannus, bydd dysgwyr yn cwrdd ag aseswr allanol mewn cyfarfod cynllunio lle byddan nhw’n cynllunio trafodaeth broffesiynol ar gyfer Tasg D, a fydd yn gwerthuso eu hymarfer. 

Unedau

Er mwyn ennill y cymhwyster, rhaid i’r dysgwyr gyflawni:

O leiaf 41 credyd o’r grŵp gorfodol, sef:

  • Darparu eiriolaeth annibynnol – egwyddorion ac arferion
  • Deall deddfwriaeth yng nghyd-destun eiriolaeth annibynnol

O leiaf 11 credyd o’r grŵp dewisol, sy’n cynnwys:

  • Eiriolaeth annibynnol gydag oedolion
  • Eiriolaeth annibynnol gyda phlant a phobl ifanc
  • Eiriolaeth iechyd meddwl annibynnol 
  • Galluedd iechyd meddwl annibynnol 

Mae Prentisiaethau Cymru yn cefnogi rhaglen fframwaith Lefel 4, gan ganiatáu i ddysgwyr gael cymorth i ennill cymhwyster Eiriolaeth Annibynnol Lefel 4, a hefyd gymwysterau Sgiliau Hanfodol Lefel 2 mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif.