Skip to main content

Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 3 - Cymwysterau

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
C&G
Llys Jiwbilî
13 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae Gwasanaeth Cwsmeriaid yn gymhwyster wedi’i ariannu’n llawn i’r rhai sydd mewn rôl gwasanaeth cwsmeriaid. Gallai dysgwyr fod yn gweithio ym meysydd gwerthu, adwerthu, gweinyddu, canolfannau cyswllt, iechyd a gofal cymdeithasol, a nifer o ddiwydiannau eraill. 

Gellir defnyddio’r cymhwyster i uwchsgilio staff newydd neu staff sydd eisoes gyda chi. Mae rolau addas yn cynnwys cynorthwywyr gwasanaeth cwsmeriaid, cynrychiolwyr gwasanaeth cwsmeriaid, derbynyddion, rheolwyr cysylltiadau cwsmeriaid, cydlynwur ac arweinwyr tîm.

Mae Gwasanaeth Cwsmeriaid ar gael fel NVQ yn ogystal â phrentisiaeth.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru.

Gall y cymhwyster ddechrau ar unrhyw adeg yn ystod y flwyddyn. Mae’n cael ei haddysgu i grwpiau a/neu unigolion gan ddefnyddio dull dysgu cyfunol trwy Teams/Skype/Zoom fel y bo’n briodol. Fel arfer bydd y dysgwyr yn cael sesiynau a chyfarfodydd gyda’r tiwtor/aseswr bob 3 i 4 wythnos.

Unedau gorfodol

  • Deall yr amgylchedd gwasanaeth cwsmeriaid
  • Trefnu a darparu gwasanaeth cwsmeriaid
  • Deall cwsmeriaid a chadw cwsmeriaid
  • Datrys probelmau cwsmeriaid
  • Rheoli datblygiad personol a phroffesiynol
  • Egwyddorion busnes

Unedau dewisol

Bydd eich tiwtor/aseswr yn gweithio gyda chi i nodi pa unedau dewisol sy’n addas i’ch rôl a’ch cyfrifoldebau, ond rydym yn argymell y canlynol: 

  • Cyfathrebu â chwsmeriaid ar lafar
  • Cyfathrebu â chwsmeriaid yn ysgrifenedig
  • Delio â galwadau sy’n dod i mewn gan gwsmeriaid
  • Ffonio cwsmeriaid
  • Prosesu gwybodaeth am gwsmeriaid
  • Datrys problemau gwasanaeth cwsmeriaid
  • Defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i ddarparu gwasanaeth cwsmeriaid
  • Datblygyu cysylltiadau cwsmeriaid
  • Ymddygiadau prynwyr mewn sefyllfaoedd gwerthu
  • Datrys cwynion cwsmeriaid

Fel rhan o’r brentisiaeth, bydd unedau gorfodol a dewisol yn cael eu hasesu fel e-bortffolio seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn cynnwys gweithgareddau seiliedig ar wybodaeth a chymhwysedd. Gall y rhain gynnwys astudiaethau achos seiliedig ar waith, datganiadau gan dystion, arsylwadau, datganiadau personol a holi ynghylch gwybodaeth.