Skip to main content

Gweinyddu Busnes Lefel 4 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4
C&G
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Mae’r brentisiaeth hon wedi’i hariannu’n llawn ac wedi’i chynllunio ar gyfer staff profiadol sy’n gweithio mewn rolau rheoli busnes.

Gallwch ddefnyddio’r brentisiaeth i uwchsgilio staff rheoli busnes eich sefydliad. Mae rolau addas yn cynnwys rheolwyr swyddfa, arweinwyr tîm gweinyddol, cynorthwywyr personol/ysgrifenyddion a swyddogion gweithredol datblygu busnes o ystod eang o sectorau.

I gwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus, bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd ag aseiniadau a phrosiectau ysgrifenedig sy’n berthnasol i’w rolau a’u hamgylchedd dysgu. Byddant yn ennill gwybodaeth, offer a thechnegau sy’n ymwneud â’u hunedau, er mwyn eu rhoi ar waith yn eu hamgylchedd gwaith presennol, fel y gallant greu portffolio o dystiolaeth.

Bydd y prosiect, y gwaith a’r dystiolaeth a gesglir yn cael eu hadolygu yn ystod cyfarfodydd grŵp a chyfarfodydd un-i-un rheolaidd gyda thiwtoriaid/aseswyr, at ddibenion asesu. Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn defnyddio Smart Asessor, sef meddalwedd rheoli prentisiaethau ar-lein sy’n caniatáu’r darparwr, y dysgwr a’r cyflogwr i weithio’n effeithiol i olrhain cynnydd dysgwyr yn effeithiol.

Gwybodaeth allweddol

I fod yn gymwys ar gyfer derbyn cyllid prentisiaeth, rhaid i’r prentis fod yn gyflogedig am fwy nag 16 awr yr wythnos ac wedi’i leoli yng Nghymru. 

Bydd gan bob dysgwr diwtor/asesydd dynodedig a fydd yn gweithio’n agos gyda’r dysgwr a’r cyflogwr i sicrhau bod yr unedau a ddewiswyd yn cyd-fynd â rolau’r unigolyn a blaenoriaethau’r sefydliad. Bydd y tiwtor/asesydd yn cyfarfod â’r dysgwr bob 4/6 wythnos i asesu ei gynnydd a gosod nodau ar gyfer y cyfnod nesaf.

Bydd dysgwyr yn gorfod ymgymryd â gwaith prosiect ar gyfer yr unedau a ddewiswyd, yn ogystal â chasglu tystiolaeth o’u rolau er mwyn dangos eu bod yn gallu rhoi eu sgiliau newydd ar waith. Efallai bydd angen i ddysgwyr fynychu seminarau, gweithdai a chwblhau gwaith dysgu seiliedig ar waith, a fydd yn canolbwyntio ar elfen ‘wybodaeth’ y cymhwyster. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth, sgiliau a phrofiad yn y maes hwn.

Unedau gorfodol 

  • Cyfathrebu mewn amgylchedd busnes 
  • Rheoli adnoddau 
  • Datrys problemau gweinyddol
  • Deall sefydliadau
  • Rheoli gwaith swyddogaeth weinyddol
  • Moeseg busnes
  • Rheoli datblygiad personol a phroffesiynol

Unedau dewisol

  • Negodi mewn amgylchedd busnes
  • Rheoli gwrthdaro o fewn tîm
  • Rheoli Swyddfa
  • Dadansoddi a chyflwyno data busnes
  • Paratoi manylebau ar gyfer contractau
  • Cadeirio ac arwain cyfarfodydd
  • Cyfrannu at wella perfformiad busnes
  • Rheoli prosiectau