Skip to main content

Technegydd Gwella (Lloegr) Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
EPA
Llys Jiwbilî
18 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd y brentisiaeth hon yn datblygu dysgwyr i fod yn Dechnegwyr Gwella, rôl lle bydd ymgeiswyr yn gyfrifol am ddysgu a hyfforddi gweithgareddau gwella mewn sefydliad. Mae’r rôl yn addas ar gyfer amrywiaeth o ddiwydiannau, gan gynnwys moduro, peirianneg, bancio, cynghorau, yswiriant, lletygarwch a llawer mwy.

Fel arfer mae Technegau Gwella yn gweithio mewn tîm i ddatrys problemau, gyda gweithgareddau’n cynnwys

  • Cael aelodau tîm i nodi cyfleoedd gwella a gwrthfesurau a rheolaethau perthnasol
  • Cychwyn a hwyluso gweithgareddau gwella hyd at ddatrysiad
  • Darparu arbenigedd mewn dulliau gwella busnes i’r tîm yn ogystal ag arfau sylfaenol

Mae’r brentisiaeth hon ar gyfer sefydliadau a dysgwyr sydd wedi’u lleoli yn Lloegr yn unig.  Os ydych chi’n chwilio am brentisiaeth debyg yng Nghymru, cliciwch yma. 

Gwybodaeth allweddol

Bydd yn ofynnol i ddysgwyr gyflawni cymwysterau Lefel 2 mewn Saesneg a Mathemateg cyn gwneud yr asesiad, os nad ydynt wedi’u cyflawni cyn y rhaglen.

Bydd dysgwyr yn astudio amrywiaeth o destunau, gan gynnwys:

  • Cydymffurfio
  • Arwain a ffurfio tîm
  • Hunanddatblygu
  • Rheoli prosiect
  • Rheoli newid
  • Dewis prosiect a chwmpas y prosiect
  • Mapio a dadansoddi proses
  • Caffael a dadansoddi data
  • Dadansoddi achos gwreiddiol
  • Cynaliadwyedd a rheolaeth

Mae enghreifftiau o deitlau swyddi yn cynnwys:

  • Cydlynydd gwella busnes
  • Swyddog gweithredol gwella parhaus
  • Technegydd prosesu
  • Dadansoddwr rheoli ansawdd
  • Technegydd cydymffurfio amgylcheddol

Dysgu i ffwrdd o’r gwaith

Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chwe awr (o leiaf) yr wythnos i ffwrdd o’r gwaith, er mwyn datblygu gwybodaeth, sgiliau ac ymddygiadau newydd. Math newydd o ddysgu yw dysgu i ffwrdd o’r gwaith, lle mae prentisiaid yn ymgymryd â gwaith sy’n uniongyrchol berthnasol i’r brentisiaeth y mae’n ei astudio.

Bydd y broses ar gyfer dysgu i ffwrdd o’r gwaith yn cael ei chynllunio yn ystod cyfnod cynllunio’r brentisiaeth, a bydd y broses yn ystyried ymrwymiadau gweithredol. Bydd prentisiaid yn gallu ymgymryd â dysgu i ffwrdd o’r gwaith yn wythnosol neu ar ffurf sesiynau bloc, pa un bynnag sy’n fwyaf addas i’r dysgwr a’r sefydliad.

Adolygiadau Cynnydd

I sicrhau bod dysgwyr yn cyflawni cynnydd yn unol â disgwyliadau ac amserlenni’r brentisiaeth, byddwn yn monitro cynnydd ac ansawdd dysgu’r dysgwr trwy adolygiad cynnydd, cyfarfod rhwng y dysgwr, y cyflogwr a’r tiwtor/aseswr. Yn ogystal â'r adolygiad cynnydd, byddwn yn sicrhau bod uwch aelodau penodol o fewn y sefydliad yn cael eu diweddaru'n fisol fel y gallant drafod cynnydd a chytuno ar unrhyw gamau gweithredu lle bo angen.

Gellir cynnal adolygiadau cynnydd yn bersonol, neu drwy gynhadledd fideo neu dros y ffôn.