Skip to main content

Ymarfer Cyfieithu (Cymraeg) Lefel 4 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4
AGORED
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Nod y brentisiaeth Lefel 4 hon mewn Ymarfer Cyfieithu yw rhoi cyfle i ddysgwyr ddatblygu eu hymarfer fel cyfieithydd dan hyfforddiant, er mwyn gallu symud ymlaen tuag at yrfa yn y maes cyfieithu o’u dewis a thuag at gymwysterau a fydd yn rhoi modd iddynt ennill statws proffesiynol. Gallai unigolion sy’n dilyn y cymhwyster hwn fod mewn rôl gyfieithu iau.

Mae’r brentisiaeth Lefel 4 yn addas i’r rhai sy’n:

  • 18 oed neu hŷn
  • Meddu ar radd C neu uwch mewn Safon Uwch Cymraeg (iaith gyntaf)
  • Gweithio mewn rôl gyfieithu
  • Meddu ar sgiliau iaith cryf mewn Cymraeg a Saesneg
  • Dymuno cael cydnabyddiaeth am eu sgiliau trwy gymhwyster achrededig
  • Dymuno datblygu eu hymarfer fel cyfieithydd

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod dysgwyr yn 18 oed neu hŷn, ac yn gweithio mewn rôl gyfieithu am fwy nag 16 awr yr wythnos.

Gellir addysgu’r brentisiaeth yn hyblyg, oherwydd mae ar gael trwy ddull dysgu cyfunol, wyneb yn wyneb trwy ymweliadau â’r gweithle a/neu o bell trwy Teams neu Zoom. Gellir trafod a chytuno ar fodelau addysgu penodol a gofynion fframwaith gyda chyflogwyr cyn dechrau’r brentisiaeth.

Mae’r brentisiaeth yn cynnwys unedau cymhwysedd a gwybodaeth lle mae’n rhaid i ddysgwyr ddangos eu gwybodaeth, eu sgiliau a’u dealltwriaeth trwy gyflwyno tystiolaeth ac ymatebion ysgrifenedig neu lafar i’r unedau gorfodol a restrir isod:

  • Moeseg mewn ymarfer cyfieithu
  • Egwyddorion defnyddio ac amrywio iaith 
  • Datblygu a chynnal sgiliau cyfieithu
  • Rheoli comisiynau cyfieithu 
  • Cyfieithu testunau ysgrifenedig
  • Gwella’ch perfformiad eich hun fel cyfieithydd

Mae’r cymhwyster hwn ar gael yn Gymraeg neu Saesneg.

Yn ogystal, bydd angen i ddysgwyr gwblhau’r canlynol:

  • Sgiliau Cyfathrebu Hanfodol Lefel 2
  • Sgiliau Hanfodol Cymhwyso Rhif Lefel 2
  • Sgiliau Hanfodol Llythrennedd Digidol Lefel 2
  • Rhaglen Sefydlu Dysgu Seiliedig ar Waith
  • Prentisiaeth wedi’i chwblhau

Yr oriau dysgu dan arweiniad yw 185 awr gyda chyfanswm o 340 awr ar gyfer y cymhwyster.