Skip to main content

Hanfodion Deallusrwydd Artiffisial Microsoft Azure (AI900) - Cymhwyster

Rhan-amser, GCS Training
Microsoft Vendor Certification
Llys Jiwbilî
Dau ddiwrnod
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Trosolwg

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi gwybodaeth sylfaenol i ddysgwyr ar gysyniadau deallusrwydd artiffisial cysylltiedig â datblygu meddalwedd a gwasanaethau Microsoft Azure i greu datrysiadau deallusrwydd artiffisial.

Ar ôl cwblhau, bydd dysgwyr yn gallu:

  • Disgrifio llwythi gwaith ac ystyriaethau deallusrwydd artiffisial
  • Disgrifio egwyddorion sylfaenol o ddysgu peirianyddol ar Azure
  • Disgrifio nodweddion llwythi gwaith gweledigaeth gyfrifiadurol ar Azure
  • Disgrifio nodweddion llwythi gwaith Prosesu Iaith Naturiol (NLP) ar Azure
  • Disgrifio nodweddion llwythi gwaith deallusrwydd artiffisial cynhyrchiol ar Azure

Wedyn bydd dysgwyr yn cael cymorth i sefyll arholiad Microsoft AI900, ac anelu at gyflawni statws AI900.

Gwybodaeth allweddol

Byddai dealltwriaeth o gysyniadau cwmwl sylfaenol a chymwysiadau gweinydd/cleient yn fuddiol. 

Bydd y cymhwyster yn cynnwys cyfuniad o wersi wedi’u haddysgu, a phrofiadau ymarferol mewn Labordai Dysgu Microsoft.

Bydd yn cael ei addysgu yn Ysgol Fusnes Plas Sgeti.

Llwybrau Dysgu Ardystiedig Microsoft sy’n gysylltiedig â Gweinyddu Azure, Gwasanaethau Cwmwl, Deallusrwydd Artiffisial a Dysgu Peirianyddol. Bydd y cymhwyster yn eich paratoi ar gyfer ardystiadau eraill seiliedig ar rôl megis Cydymaith Gwyddonydd Data Azure neu Gydymaith Peiriannydd Deallusrwydd Artiffisial Azure. 

Bydd y cymhwyster yn cael ei addysgu gan bartneriaid Coleg Gŵyr Abertawe, Stable, sydd yn arweinwyr ym maes Addysg Ardystiedig Microsoft.

Azure AI Fundamentals (AI900)
Cod y cwrs: ZA1895 DLS2
06/06/2024
Plas Sgeti
Two days
Thu-Fri
9am – 5pm
£0
Amhriodol