Skip to main content

TGAU Mathemateg

Rhan-amser
Lefel 2
GCSE
Tycoch, Online
30 wythnos
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Trosolwg

TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg (Rhifedd)

Mae’r cymwysterau hyn yn ddefnyddiol iawn mewn amrywiaeth o yrfaoedd, gan ddatblygu sgiliau sy’n cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi’n fawr yn y gweithle. Maen nhw’n ddau gymhwyster annibynnol ar wahân, er bod rhai elfennau cyffredin i ddeunyddiau’r cwrs. Mae’n bosibl sefyll y ddau arholiad, ond fe’ch cynghorir yn gryf i ymchwilio i ba linyn sy’n gweddu orau i’ch anghenion unigol chi.

  • Mae’r ddau gymhwyster yn gwrs blwyddyn i’w arholi yn yr haf.
  • Pwysiad cyfartal o gwestiynau cyfrifiannell a chwestiynau nad ydynt yn ymwneud â chyfrifiannell.
  • Dewis o Lefel Ganolradd (Graddau B-E) neu Lefel Uwch (Graddau A*-C).

Gwybodaeth allweddol

Nid oes angen unrhyw gymwysterau ffurfiol. Disgwylir i fyfyrwyr gwblhau gwaith cartref a gweithio’n galed i gyflawni eu nod. Rhaid i fyfyrwyr ymrwymo i fynychu pob dosbarth. Gall myfyriwr gofrestru ar-lein ar gyfer y cwrs hwn.

30 wythnos - 2.5 awr yr wythnos

Beth yw’r gwahaniaethau rhwng TGAU Mathemateg a TGAU Mathemateg (Rhifedd)?

Mae’n bwysig gwybod hyn ar ddechrau’ch cwrs, ond os penderfynwch newid llinyn ar ôl ychydig mae hynny’n iawn.

  • Mae TGAU Mathemateg yn gyffredinol yn cynnwys cwestiynau strwythuredig byr. Mae iddo fwy o’r elfennau traddodiadol fel algebra a geometreg bellach ac mae angen gwybodaeth eang o eirfa mathemateg. Mae cwestiynau fel arfer yn werth nifer gymharol fach o farciau.
     
  • Mae TGAU Mathemateg (Rhifedd) yn canolbwyntio mwy ar ddatrys problemau. Yn gyffredinol, mae cwestiynau’n fwy manwl ac yn gofyn am lefel dda o ddealltwriaeth. Mae’n tueddu i gyflwyno mwy o senarios bywyd go iawn a gall cwestiynau fod yn werth cryn dipyn o farciau.

Bydd angen cyfrifiannell wyddonol, pren mesur, onglydd a phâr o gwmpawdau ar fyfyrwyr. Mae llyfr testun cwrs ar gael hefyd. Anogir yn gryf y dylid defnyddio safle Moodle y Coleg a MathsWatch. Bydd eich darlithydd yn darparu cyfrineiriau.

I gael rhagor o wybodaeth e-bostiwch jonathan.oakes@gcs.ac.uk

Off