Skip to main content

Arweinyddiaeth a Rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 5
Llys Jiwbilî
15 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac mae ar gyfer y rhai sydd â phrofiad mewn rôl arweinyddiaeth a rheolaeth o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ac sy’n bodloni gofynion rheoliadol ychwanegol sy’n berthnasol mewn rhai lleoliadau gwaith. 

Bydd dysgwyr yn datblygu’r wybodaeth, y ddealltwriaeth, yr ymddygiadau a’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae’r cymhwyster yn addas i ddysgwyr sydd:

Yn ystyried arddangos y cymwyseddau a nodwyd yn y cymhwyster fel rhan o’u rôl, ac sy’n bodloni unrhyw reoliadau lleiafswm oedran a osodwyd
Wedi cwblhau cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 4 priodol, ac sydd â’r cyfle i roi theori ar waith a bodloni unrhyw ofynion rheoliadol ychwanegol

Gwybodaeth allweddol

Rhaid bod dysgwyr yn 18+ oed, ac mae disgwyl iddynt fod yn hyfedr wrth ddefnyddio cyfrifiadur a rhaglenni cysylltiedig, gan y byddant yn defnyddio system portffolio electronig drwy gydol y cymhwyster. 

Bydd yr holl ddarpar ddysgwyr yn cael asesiad/cyfarfod cychwynnol i drafod y cymhwyster a disgwyliadau’r cwrs gyda’r hyfforddwr/aseswr, a fydd yn rhoi cymorth ar gyfer yr asesiad. 

Bydd yr aseswr mewnol yn cynorthwyo’r dysgwr i ddarparu tystiolaeth fydd yn llywio penderfyniad yr aseswr allanol. Bydd yr aseswr mewnol yn gyfrifol am gadarnhau dilysrwydd prosiect busnes a chynllun prosiect yr ymgeisydd o ran darparu digon o dystiolaeth asesu, a chynnal o leiaf ddwy sesiwn arsylwi o’r ymgeisydd yn gweithredu ei brosiect. Bydd yr aseswr mewnol hefyd yn cynorthwyo’r ymgeisydd i ddarparu tystiolaeth o fewn ei bortffolio, a darparu sesiynau arsylwi a thystebau ychwanegol pan fo’n briodol. 

Caiff y cymhwyster ei asesu gan aseswr allanol sy’n gyflogedig gan gorff dyfarnu City & Guilds. 

Rhaid i ddysgwyr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • Portffolio o dystiolaeth
  • Prosiect busnes
  • Trafodaeth broffesiynol

Unedau

Er mwyn ennill y cymhwyster, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 120 credyd:

  • Rhaid cyflawni 20 credyd o’r Grŵp A gorfodol:
  • Arwain a rheoli ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolyn/blentyn
  • Neu arwain a rheoli ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolyn/blentyn trwy eiriolaeth annibynnol

 

  • Rhaid cyflawni 70 credyd o’r Grŵp B gorfodol
  • Rhaid cyflawni o leiaf 30 credyd o’r grŵp dewisol

Dyma unedau gorfodol y cymhwyster hwn:

  • Arwain a rheoli ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolyn/blentyn
  • Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol
  • Arwain a rheoli ansawdd darpariaeth y gwasanaeth er mwyn bodloni gofynion deddfwriaethol, rheoliadol a sefydliadol
  • Ymarfer proffesiynol
  • Arwain a rheoli ymarfer sy’n hyrwyddo diogelu unigolion 
  • Arwain a rheoli iechyd a diogelwch yn y gweithle/lleoliad

Mae amrywiaeth o unedau dewisol ar gael yn y cymhwyster hwn hefyd.

Mae’r cymhwyster yn rhoi modd i ymgeiswyr llwyddiannus symud ymlaen i gyflogaeth neu astudio ymhellach ar lefel uwch.