Skip to main content

Gorchuddio Lloriau Lefel 2 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 2
NOCN
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r brentisiaeth hon yn gyfle i ddatblygu sgiliau, ymddygiadau a gwybodaeth greiddiol i ddatblygu gyrfa ym maes gosod lloriau. Mi fydd yn gyfle i ymgymryd â rhaglen, gan alluogi dysgwyr i ennill arbenigedd technegol, profiad ymarferol a sgiliau ehangach angenrheidiol i symud ymlaen o fewn y sector. 

Bydd prentisiaid yn cael mynediad at ddeunyddiau ac offer a fydd yn eu caniatáu i ddysgu a datblygu sgiliau mewn amgylchedd lle gallant hogi eu sgiliau. Byddant wedyn yn cael cyfle i ddychwelyd i’w cyflogwr a datblygu’r sgiliau hyn ymhellach mewn amgylchedd go iawn.   

Gwybodaeth allweddol

Does dim gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y brentisiaeth Lefel 2 hon, felly does dim angen unrhyw hyfforddiant na gofynion blaenorol.

Fodd bynnag, bydd angen i ddysgwyr fod yn gweithio yn y sector Lloriau a bydd angen iddynt fod â chontract cyflogaeth sy’n para mwy o amser na’r brentisiaeth ei hun.  

Fel rhan o’r fframwaith prentisiaeth, bydd disgwyl hefyd i ddysgwyr gwblhau:

  • Lefel 1 - Cymhwyso Rhif
  • Lefel 1 - Cyfathrebu 

Cyflwynir y  brentisiaeth trwy sesiynau ymarferol mewn gweithdy ag adnoddau gwych ynghyd â gwersi theori i ategu at y wybodaeth ymarferol a ddysgir yn y sesiynau ymarferol.

Diploma Lefel 2 - Unedau gorfodol

  • Iechyd, diogelwch a lles ym maes adeiladu a diwydiannau cysylltiedig 
  • Meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid
  • Dealltwriaeth o dechnoleg adeiladu 
  • Deall gwybodaeth a meintiau a chyfathrebu ag eraill
  • Paratoi arwynebau islawr er mwyn eu gorchuddio
  • Paratoi lloriau er mwyn eu gorchuddio
  • Gosod gorchuddion llawr, teils a chynfasau lloriau cadarn 
  • Gosod gorchuddion llawr tecstilau 

Tystysgrif NVQ Lefel 2 - Unedau gorfodol

  • Cydymffurfio ag iechyd, diogelwch a lles cyffredinol yn y gweithle
  • Cydymffurfio ag arferion gwaith cynhyrchiol yn y gweithle
  • Symud, trin a storio adnoddau yn y gweithle
  • Asesu a pharatoi arwynebau ar gyfer gorchuddio lloriau yn y gweithle
  • Paratoi a gosod is-haenau ar gyfer gorchuddion lloriau yn y gweithle
  • Paratoi ar gyfer gosod gorchuddion llawr yn y gweithle
  • Paratoi arwynebau i dderbyn cyn gosod lloriau
  • Asesu a gwerthuso gorchuddion lloriau yn y gweithle
  • Meithrin perthnasoedd â chwsmeriaid 

NVQ Lefel 2 - Unedau dewisol

  • Gosod gorchuddion llawr â thecstilau yn y gweithle
  • Gosod gorchuddion llawr cadarn yn y gweithle
  • Gosod gorchuddion llawr â thecstilau yn y gweithle

Bydd dysgwyr yn cael eu hasesu trwy asesiadau ymarferol ac aseiniadau ysgrifenedig. 

Diploma Lefel 2 mewn Gorchuddio Lloriau

Dulliau asesu’r cymhwyster hwn yw profion amlddewis ac asesiadau ymarferol. O ran marcio, bydd pob uned yn cael eu graddio yn ôl y categorïau canlynol: pas, teilyngdod neu ragoriaeth. Bydd asesiadau pob uned yn amrywio, a byddant yn cynnwys gweithgareddau yn yr ystafell ddosbarth a thu allan i’r ystafell ddosbarth.

Diploma NVQ Lefel 2 mewn Gorchuddio Lloriau

Wrth i ddysgwyr symud ymlaen i NVQ, byddant yn adeiladu e-borffolio o’r dystiolaeth y byddant yn ei ennill trwy weithgareddau ymarferol yn y gweithle, fel y gallant arddangos eu gwybodaeth a’u cymhwysedd. Bydd amrywiaeth o ddulliau asesu yn cael eu defnyddio, gan gynnwys:

  • Cwestiynau ac atebion
  • Arsylwadau 
  • Tystiolaeth gan dystion
  • Tystiolaeth o gynnyrch
  • Astudiaethau Achos
  • Trafodaethau Proffesiynol