Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd Lefel 2 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 2
Llys Jiwbilî
Chwe mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn addas i unigolion sy’n gweithio yn y sectorau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, neu’n bwriadu gweithio yn y sectorau hynny:

  • Dysgwyr 16+ oed, sy’n gweithio ar hyn o bryd yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol neu’n bwriadu gweithio ynddo
  • Gweithwyr gofal cymdeithasol (Oedolion)
  • Gweithwyr gofal cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
  • Gweithwyr cymorth gofal iechyd
  • Cynorthwywyr gofal iechyd

Mae’r cwrs yn cefnogi dysgu i ddatblygu eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth o’r canlynol:

  • Egwyddorion a gwerthoedd craidd sydd wrth wraidd ymarfer iechyd a gofal cymdeithasol
  • Ffyrdd o weithio yn y sectorau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Ymarfer effeithiol mewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • Llwybrau dilyniant i astudiaethau pellach neu gyflogaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol

Gwybodaeth allweddol

Bydd dysgwyr yn dod i’r Coleg am ddiwrnod llawn bob pythefnos ar gyfer dysgu ac addysgu i baratoi at asesiadau, ac i gyflawni’r cwestiynau dewis lluosog a osodir yn allanol.

Mae tri llwybr ar gael ar gyfer y cymhwyster hwn:

  • Oedolion
  • Plant a Phobl Ifanc
  • Llwybr cyfunol

Bydd dysgwyr yn gweithio gyda hyfforddwr/aseswr dynodedig sy’n gymwysedig yn y sector, ac mae cymorth ar gael ar gyfer unrhyw anghenion dysgu ychwanegol trwy asesiad gyda’r tîm niwroamrywiaeth

Unedau

  • Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol (Oedolion)
  • Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol (Plant a Phobl Ifanc)
  • Iechyd a lles (Oedolion)
  • Iechyd a lles (Plant a Phobl Ifanc)
  • Ymarfer proffesiynol fel gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
  • Diogelu unigolion
  • Iechyd a diogelwch ym maes iechyd a gofal cymdeithasol

Os ydych yn ymgymryd â chymhwyster Craidd Lefel 2 fel rhan o Brentisiaeth Sylfaen Lefel 2, neu Brentisiaeth Lefel 3 mewn Oedolion neu Blant a Phobl Ifanc, mae’r cwrs Lefel 2 Craidd yn orfodol dan y fframwaith. Byddwch yn symud ymlaen i:

  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)

Bydd y cymhwyster yn darparu gwybodaeth eang ar draws iechyd a gofal cymdeithasol. 

Mae’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd yn darparu’r wybodaeth er mwyn symud ymlaen i’r canlynol:

  • Lefel 2 Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lefel 3 Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion/Plant a Phobl Ifanc)
  • TAG Uwch a TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant