Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) Lefel 2 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 2
Llys Jiwbilî
6-9 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac mae’n asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer. Bydd yn datblygu gallu’r dysgwyr i gefnogi anghenion iechyd a gofal oedolion yn ymarferol mewn amrywiaeth o leoliadau, gan roi modd iddynt ddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiad, eu sgiliau a’u hymarfer o fewn lleoliad iechyd a gofal cymdeithasol.

Yn benodol, bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn:

  • Gallu gwneud cyfraniad cadarnhaol i’r sector iechyd a gofal cymdeithasol trwy eu hymarfer eu hunain
  • Gallu myfyrio ar ymarfer i wella’n barhaus
  • Deall rolau swyddi a ffyrdd o weithio o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol
  • Deall a gallu cymhwyso’n ymarferol y dulliau sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Deall a gallu cymhwyso’n ymarferol yr egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n sail i iechyd a gofal cymdeithasol
  • Defnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol yn eu rôl

Mae’r cymhwyster yn addas ar gyfer:

  • Dysgwyr 16+ oed sy’n gweithio mewn rôl gefnogi gydag oedolion yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
  • Dysgwyr sydd eisoes wedi’u cyflogi yn y sectorau gofal iechyd a gofal cymdeithasol
  • Dysgwyr sy’n dychwelyd i'r gweithle ar ôl seibiant gyrfa ac sy’n dymuno adnewyddu eu gwybodaeth a’u sgiliau
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion)

Gwybodaeth allweddol

Anogir yn gryf bod dysgwyr wedi cwblhau’r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion), gan y bydd hyn yn ofyniad ar gyfer ymarfer a osodwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru. 

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys un uned orfodol ac amrywiaeth o unedau dewisol sy’n gysylltiedig â mathau penodol o gymorth neu leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae cynnwys gorfodol y cymhwyster yn cyd-fynd â themâu allweddol Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae’n cynnwys:

  • Ymarfer proffesiynol
  • Iechyd a diogelwch
  • Diogelu
  • Deddfwriaeth, polisi cenedlaethol a chodau ymarfer
  • Iechyd a lles (Oedolion)

Rhaid i’r dysgwr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • Portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
  • Tasgau a osodir yn allanol ac a asesir yn fewnol

Unedau

I gyflawni cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion), rhaid i ddysgwyr gyflawni o leiaf 35 credyd i gyd:

  • Rhaid ennill 14 credyd o’r uned orfodol
  • Bydd lleiafswm o 21 credyd yn cael eu dewis o’r gyfres o unedau dewisol, sy’n cynnwys unedau sy’n ymwneud â chymorth uniongyrchol a gofal iechyd

Yn dilyn rhaglen sefydlu dysgwr a rheolwyr, bydd y dysgwr yn ymgymryd â chyfnod dysgu ffurfiol cyn symud i’r asesiad ffurfiannol, ac yna i’r asesiad crynodol. Bydd y dysgwr yn gweithio trwy Dasgau A-E gyda chefnogaeth ac arweiniad gan eu haseswr penodedig. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dull cydweithredol rhwng y dysgwr, yr aseswr a’r rheolwr, a bydd yn cynnwys adolygiadau cynnydd rheolaidd i sicrhau cyflawniad llwyddiannus. 

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i:

  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Lefel 2 Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lefel 3 Egwyddorion a Chyd-destunau Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Oedolion / Plant a Phobl Ifanc)
  • TAG Uwch a TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant