Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
Llys Jiwbilî
6-9 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac mae’n asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer mewn cyflogaeth. Mae’n rhoi cyfle i chi gyfoethogi gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio cynnwys gorfodol ac unedau dewisol. 

Bydd dysgwyr yn gallu dangos eu bod yn:

  • Deall a gallu cymhwyso’n ymarferol, yr egwyddorion a’r gwerthoedd sy’n sail i iechyd a gofal cymdeithasol
  • Deall a gallu defnyddio dulliau ymarferol sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn
  • Hyrwyddo a chefnogi ymarfer effeithiol o fewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • Ymwybodol o bolisïau allweddol o fewn y sector, ac yn deall sut mae’r rhain yn effeithio ar ddatblygu a darparu gwasanaethau
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol
  • Gallu cymhwyso amrywiaeth o dechnegau datrys problemau i fyfyrio ar ymarfer, a gwella’n barhaus y defnydd o sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol o fewn eu rôl

Mae’r cymhwyster ar gyfer y rhai sy’n gyflogedig ar hyn o bryd mewn lleoliad sy’n canolbwyntio ar oedolion ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd o ddiddordeb i ddysgwyr sy’n gweithio mewn gwasanaethau cymorth cartref, gofal preswyl/nyrsio, gwasanaethau canolfannau dydd a darpariaeth anabledd dysgu gan gynnwys gwasanaethau gofal iechyd yn y gymuned.

Disgwylir y bydd gan ddysgwyr rywfaint o ymreolaeth yn eu rôl a’u bod yn cefnogi eraill i ddarparu gofal o ansawdd uchel.

Mae’r cymhwyster hwn yn addas ar gyfer:

  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) yn llwyddiannus
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymwysterau etifeddol priodol sydd wedi’u cynnwys yn Gofal Cymdeithasol Cymru – Fframwaith Cymwysterau ar gyfer Gofal Cymdeithasol a Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru

Gwybodaeth allweddol

Anogir yn gryf bod dysgwyr wedi cwblhau’r cymhwyster craidd cyn, neu ochr yn ochr â’r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion), gan y bydd hyn yn ofyniad a osodwyd gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys un uned orfodol ac amrywiaeth o unedau dewisol sy’n gysylltiedig â mathau penodol o gymorth neu leoliadau iechyd a gofal cymdeithasol.

I gyflawni cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion), rhaid i ddysgwyr gyflawni o leiaf 50 credyd i gyd:

  • Rhaid ennill 18 credyd o’r unedau gorfodol
  • Bydd lleiafswm o 32 credyd yn cael eu dewis o’r gyfres o unedau dewisol, sy’n cynnwys unedau am gymorth uniongyrchol a gofal iechyd.

Mae cynnwys gorfodol y cymhwyster yn cyd-fynd â themâu allweddol Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, ac mae’n cynnwys:

  • Ymarfer proffesiynol
  • Iechyd a diogelwch
  • Diogelu
  • Deddfwriaeth, polisi cenedlaethol a chodau ymarfer
  • Iechyd a lles (Oedolion)

Rhaid i’r dysgwr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • Portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwi ymarfer yn uniongyrchol
  • Tasgau a osodir yn allanol ac a asesir yn fewnol

Yn dilyn rhaglen sefydlu dysgwr a rheolwyr, bydd y dysgwr yn ymgymryd â chyfnod dysgu ffurfiol cyn symud i’r asesiad ffurfiannol, ac yna i’r asesiad crynodol. Bydd y dysgwr yn gweithio trwy Dasgau A-E gyda chefnogaeth ac arweiniad gan eu haseswr penodedig. Mae’r cymhwyster hwn wedi’i gynllunio ar gyfer dull cydweithredol rhwng y dysgwr, yr aseswr a’r rheolwr, a bydd yn cynnwys adolygiadau cynnydd rheolaidd i sicrhau cyflawniad llwyddiannus.

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu’r wybodaeth a’r cymhwysedd priodol i ymarfer, ac yn cynorthwyo dysgwyr i symud ymlaen i:

  • Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cymwysterau eraill a allai fod o ddiddordeb yw:

  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • TAG Uwch a TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
  • Tystysgrif a Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau (Oedolion, Plant a Phobl Ifanc)