Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) Lefel 3 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 3
Llys Jiwbilî
6-9 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r cymhwyster hwn yn seiliedig ar ymarfer ac yn asesu gwybodaeth a chymhwysedd dysgwyr i ymarfer mewn cyflogaeth. Mae’n rhoi cyfle i gyfoethogi gwybodaeth a sgiliau gan ddefnyddio unedau gorfodol a dewisol sy’n canolbwyntio ar blant a phobl ifanc.  

Bydd dysgwyr yn gallu arddangos eu bod yn:

  • Deall yr egwyddorion a’r gwerthoedd sydd wrth wraidd iechyd a gofal cymdeithasol a’u rhoi ar waith
  • Deall a gallu defnyddio dulliau ymarfer sy’n canolbwyntio ar y plentyn
  • Hyrwyddo a chefnogi ymarfer effeithiol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • Ymwybodol o bolisïau allweddol o fewn y sector, ac yn deall sut mae’r rhain yn effeithio ar ddatblygiad a darpariaeth gwasanaethau
  • Gallu gweithio mewn partneriaeth ag unigolion, eu teuluoedd, gofalwyr ac amrywiaeth o weithwyr proffesiynol
  • Gallu cymhwyso amrywiaeth o dechnegau datrys problemau i fyfyrio ar ymarfer, a gwella’n barhaus y defnydd o sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol fel y bo’n briodol o fewn eu rôl.

Bwriedir y cymhwyster i’r rhai sydd ar hyn o bryd yn gyflogedig mewn lleoliadau fel gofal plant cartref neu breswyl, canolfannau preswyl i deuluoedd, gofal maeth neu leoliadau gofal iechyd yn y gymuned.

Mae hefyd ar gyfer dysgwyr sydd wedi cwblhau un o’r cymwysterau canlynol yn llwyddiannus:

  • Diploma Lefel 2 mewn Cymorth Gofal Iechyd Clinigol
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Craidd
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • Lefel 2 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Craidd
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer
  • Lefel 2 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori
  • TGAU Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant 
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer

Gwybodaeth allweddol

Ni ellir cwblhau’r cymhwyster ar leoliad gwaith. Rhaid bod dysgwyr yn darparu cymorth i blant a phobl ifanc mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol neu ofal iechyd yn y gymuned. 

Anogir yn gryf bod dysgwyr wedi cwblhau’r cymhwyster craidd cyn neu ochr yn ochr â’r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc), oherwydd bydd hwn yn ofyniad ar gyfer ymarfer wedi’i osod gan Gofal Cymdeithasol Cymru.

Mae hefyd yn rhan o’r cymhwyster Prentisiaeth Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Cymru). 

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys un uned orfodol ac amrywiaeth o unedau dewisol sy’n adlewyrchu’r wybodaeth a’r sgiliau sydd eu hangen wrth weithio gyda phlant a phobl ifanc ag anghenion cymhleth a’u teuluoedd. 

Er mwyn cyflawni’r cymhwyster Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc), rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 50 credyd o leiaf:

  • Rhaid cyflawni 18 credyd o’r uned orfodol
  • Bydd o leiaf 32 credyd yn cael eu dewis o’r gyfres o unedau dewisol, sy’n cynnwys unedau am ofal a chymorth uniongyrchol, yn ogystal â gofal iechyd

Mae cynnwys gorfodol y cymhwyster yn cyd-fynd â themâu allweddol Fframwaith Sefydlu Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru Gyfan, ac mae’n cynnwys:

  • Ymarfer proffesiynol
  • Iechyd a diogelwch
  • Diogelu
  • Egwyddorion ac ymarfer (plant a phobl ifanc)
  • Iechyd a lles (plant a phobl ifanc)

Rhaid i’r dysgwr gwblhau’r canlynol yn llwyddiannus:

  • Portffolio o dystiolaeth sy’n cynnwys arsylwad uniongyrchol o’r ymarfer
    Tasgau wedi’u gosod yn allanol, wedi’u hasesu’n fewnol

Yn dilyn sesiwn sefydlu gyda’r dysgwr a’r rheolwr, bydd y dysgwr yn ymgymryd â chyfnod dysgu ffurfiol cyn symud i’r asesiad ffurfiannol, ac yna i’r asesiad crynodol. Bydd y dysgwr yn gweithio trwy Dasgau A-E gyda chymorth ac arweiniad gan ei aseswr penodedig. Mae’r cymhwyster yn caniatáu ar gyfer dull gweithredu cydweithredol rhwng y dysgwr, yr aseswr a’r rheolwr a bydd yn cynnwys adolygiadau cynnydd i sicrhau cyflawniad llwyddiannus. 

Bydd cwblhau’r cymhwyster hwn yn llwyddiannus yn rhoi modd i ddysgwyr weithio ym meysydd gofal iechyd a gofal cymdeithasol fel gweithiwr Lefel 3 cymwysedig gyda phlant a phobl ifanc. 

Bydd yn rhoi modd i ddysgwyr wneud cais am gofrestriad gyda Gofal Cymdeithasol Cymru fel gweithiwr gofal cymdeithasol mewn gofal plant preswyl neu ofal cartref.

Mae’r cymhwyster hwn yn darparu’r wybodaeth a’r cymhwysedd priodol i ymarfer, ac yn cynorthwyo dysgwyr i symud ymlaen i:

  • Lefel 4 Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Lefel 4 Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cymwysterau eraill a allai fod o ddiddordeb:

  • Lefel 3 Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion)
  • TAG Uwch a TAG Uwch Gyfrannol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Gofal Plant
  • Tystysgrif a Diploma Lefel 3 mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Egwyddorion a Chyd-destunau
  • Lefel 3 Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant: Ymarfer a Theori