Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer Proffesiynol Lefel 4 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 4
Llys Jiwbilî
15 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bwriad y cymhwyster hwn yw cefnogi staff uchelgeisiol a hoffai bontio i rôl reoli. Bydd yn rhoi modd i ddysgwyr ddatblygu ac arddangos eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth, eu hymddygiadau, eu sgiliau a’u hymarfer yng nghyd-destun y llwybr o’u dewis.

Bydd dysgwyr yn gallu arddangos eu bod:

  • Wedi datblygu a chymhwyso gwybodaeth, dealltwriaeth a sgiliau yn y llwybr o’u dewis
  • Wedi datblygu a chymhwyso gwybodaeth a dealltwriaeth o ddamcaniaethau, modelau a dulliau sy’n berthnasol i’r llwybr o’u dewis
  • Wedi datblygu a chymhwyso gwybodaeth yn ogystal â dealltwriaeth o sut i gynnal a gwella canlyniadau i unigolion yn y llwybr o’u dewis
  • Wedi datblygu yn ddysgwyr effeithiol ac annibynnol, sy’n meddwl yn feirniadol, yn fyfyriol ac yn ymholgar yng nghyd-destun y llwybr o’u dewis
  • Defnyddio dull ymholgar a beirniadol i wahaniaethu rhwng ffeithiau a barn; adeiladu dadleuon a llunio barn wybodus yng nghyd-destun y llwybr o’u dewis mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol
  • Wedi datblygu sgiliau hunanymwybyddiaeth er mwyn gwella ymarfer yn y llwybr o’u dewis
  • Wedi datblygu gwybodaeth a dealltwriaeth o ddulliau sy’n canolbwyntio ar unigolyn/blentyn ar draws amrywiaeth o leoliadau
  • Defnyddio sgiliau llythrennedd, rhifedd a llythrennedd digidol fel sy’n briodol yn eu rôl

Mae’n darparu dilyniant i ddysgwyr sydd wedi cwblhau unrhyw un o’r cymwysterau canlynol:

  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) Lefel 2
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) Lefel 3
  • Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) Lefel 3

Gwybodaeth allweddol

Mae disgwyl i ddysgwyr fod yn hyfedr wrth ddefnyddio cyfrifiadur a rhaglenni cysylltiedig, gan y byddant yn defnyddio system portffolio electronig drwy gydol y cymhwyster.

Bydd yr holl ddarpar ddysgwyr yn cael asesiad/cyfarfod cychwynnol i drafod y cymhwyster a disgwyliadau’r cwrs gyda’r hyfforddwr/aseswr.  

Bydd rhaid i ddysgwyr fynychu hyd at 10 sesiwn addysgu/astudio ar gyfer dysgu, addysgu ac asesiad ffurfiannol, a fydd yn eu paratoi ar gyfer yr asesiadau cysylltiedig â’r tasgau strwythuredig crynodol. Mae hyn yn cynnwys cadw portffolio o dystiolaeth, dan arweiniad yr hyfforddwr/aseswr.

Yn ogystal, bydd rhaid i ddysgwyr gwblhau ymatebion ysgrifenedig yn unol â chyfarwyddyd yr hyfforddwr/aseswr a phecyn asesu, a asesir yn fewnol ac yn allanol. Bydd angen iddynt gwblhau gwerthusiad o ymarfer hefyd yn seiliedig ar eu maes.

Bydd y gwerthusiad hwn yn seiliedig ar y dasg ddiwethaf a fydd yn cynnwys prosiect cysylltiedig â newid mewn ymarfer. Yna bydd angen i’r dysgwr weithredu’r cynllun hwn gyda chymorth ei reolwr, a bydd yr aseswr yn arsylwi hyn. Bydd y dasg derfynol yn drafodaeth broffesiynol gyda’r aseswr.

Unedau

Mae’r cymhwyster yn cynnwys tair uned:

  • Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolyn/blentyn
  • Ymarfer proffesiynol
  • Uned benodol i’r sector

Yr uned benodol i’r sector fydd un o’r canlynol:

  • Arwain cymorth ar gyfer lleihau arferion cyfyngol trwy ddulliau ymddygiad cadarnhaol 
  • Arwain ymarfer ag unigolion sy’n byw gyda salwch meddwl
  • Arwain ymarfer ag unigolion sy’n byw gyda dementia
  • Arwain ymarfer ag unigolion sy’n byw gydag anabledd dysgu/awtistiaeth 
  • Arwain ymarfer i blant a phobl ifanc anabl
  • Arwain ymarfer i blant a phobl ifanc sy’n derbyn gofal
  • Arwain ymarfer â theuluoedd a gofalwyr

Ar ôl cwblhau’r cymhwyster, gallai dysgwyr symud ymlaen i’r canlynol:

  • Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Ymarfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5