Skip to main content

Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4 - Cymhwyster

GCS Training
Lefel 4
Llys Jiwbilî
15 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bwriad y cymhwyster hwn yw cefnogi staff uchelgeisiol a hoffai bontio i rôl reoli, trwy ddatblygu’r gofynion gwybodaeth sydd wrth wraidd arweinyddiaeth a rheolaeth yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.

Bydd yn rhoi cyfle i ddysgwyr sydd eisiau/angen symud ymlaen i Lefel 5 a bodloni’r gofynion cofrestru ar gyfer Gofal Cymdeithasol Cymru. Bydd rhaid i ddysgwyr gwblhau’r cymhwyster hwn (neu gymhwyster tebyg y cytunwyd arno) cyn cymryd cymhwyster Arweinyddiaeth a Rheolaeth Lefel 5.

Mae’r cymhwyster yn seiliedig ar wybodaeth, ac yn addas i’r canlynol:

  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2 yn llwyddiannus, neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Oedolion) Lefel 3 yn llwyddiannus, neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig 
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc) Lefel 3 yn llwyddiannus, neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig
  • Dysgwyr sydd wedi cwblhau cymhwyster TAG Uwch mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu Ofal Plant yn llwyddiannus, neu gymhwyster cyfwerth cydnabyddedig
  • Rheolwyr y mae’n ofynnol iddynt gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gwybodaeth allweddol

Mae disgwyl i ddysgwyr fod yn hyfedr wrth ddefnyddio cyfrifiadur a rhaglenni cysylltiedig, gan y byddant yn defnyddio system portffolio electronig drwy gydol y cymhwyster.

Bydd yr holl ddarpar ddysgwyr yn cael asesiad/cyfarfod cychwynnol i drafod y cymhwyster a disgwyliadau’r cwrs gyda’r hyfforddwr/aseswr.

Bydd angen i ddysgwyr fynychu sesiynau dysgu ac addysgu ar gyfer pob uned, a mynychu sesiynau i baratoi ac ymgymryd â’r tasgau asesu crynodol, a gaiff eu cynllunio gyda’r hyfforddwr yn ystod y cyfweliad.  

Asesir y cymhwyster trwy gyfuniad o asesiadau mewnol ac allanol.

Yn achos yr asesiadau allanol, rhaid i ddysgwyr gwblhau prosiect yn llwyddiannus sy’n cynnwys adroddiad ysgrifenedig, cyflwyniad a thrafodaeth sy’n seiliedig ar y newid arfaethedig i’r ymarfer. 

Yn achos yr asesiadau mewnol, rhaid i ddysgwyr gwblhau cyfres o dasgau sy’n cynnwys ymatebion llafar ac ysgrifenedig.

Unedau

Bydd dysgwyr yn astudio tair uned:

  • Deddfwriaeth, damcaniaethau a modelau ymarfer sy’n canolbwyntio ar unigolyn/blentyn
  • Fframweithiau damcaniaethol ar gyfer arweinyddiaeth a rheolaeth mewn iechyd a gofal cymdeithasol
  • Arwain a rheoli perfformiad tîm effeithiol mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol

Er mwyn ennill y cymhwyster, rhaid i ddysgwyr gyflawni cyfanswm o 60 credyd. Mae’r holl unedau yn y cymhwyster yn orfodol. 

Bydd y cymhwyster hwn yn rhoi gwybodaeth i ddysgwyr fydd yn caniatáu iddynt gymryd eu cam cyntaf i rôl arweinyddiaeth, gan gefnogi dilyniant llorweddol a fertigol i’r canlynol:

  • Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4
  • Arweinyddiaeth a Rheolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 5