Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol (gwasanaethau Plant a Phobl Ifanc) Lefel 3 - Prentisiaeth

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 3
Llys Jiwbilî
19 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Mae’r brentisiaeth hon yn addas i’r rhai sy’n gweithio mewn rolau lle maen nhw’n cefnogi plant a phobl ifanc mewn lleoliad preswyl. Mae’r gwaith yn cynnwys bod yn fodel rôl, rhoi arweiniad ar ddysgu sgiliau bywyd a datblygiad personol. Yn ogystal, gall gynnwys cefnogi pobl ifanc ag anghenion cymhleth iawn, goruchwylio aelodau eraill o staff a bod yn gyfrifol am sifftiau.

Mae teitlau swyddi enghreifftiol sy’n addas ar gyfer y brentisiaeth hon yn cynnwys ymarferwyr gofal plant preswyl uwch, gweithwyr gofal plant, a gweithwyr gofal plant uwch. 

Mae’r fframwaith yn cynnwys:

  • Cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 2: Craidd (Plant a Phobl Ifanc)
  • Cymhwyster Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 3: Ymarfer (Plant a Phobl Ifanc)
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu (gofyniad sylfaenol)
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif (gofyniad sylfaenol)