Skip to main content

Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 4/5 - Prentisiaethau

Prentisiaeth, GCS Training
Lefel 4/5
Llys Jiwbilî
24 mis
Ffôn: 01792 284400 (Llys Jiwbilî)

Arolwg

Bwriedir y fframwaith proffesiynol hwn o arweinyddiaeth a rheolaeth mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i’r rhai sy’n ymarfer mewn rôl rheolwr neu ddirprwy reolwr neu swydd arweinydd tîm/goruchwylio. 

Mae cyflawniad ar y lefel hon yn adlewyrchu’r gallu i nodi a defnyddio dealltwriaeth, dulliau a sgiliau perthnasol er mwyn mynd i’r afael â phroblemau cymhleth, eang eu diffiniad. Mae’n cynnwys cymryd cyfrifoldeb am gynllunio a datblygu camau gweithredu, yn ogystal ag arfer ymreolaeth a barn o fewn paramedrau eang. 

Bydd angen i ymgeiswyr fod mewn swydd sy’n darparu cyfleoedd gwaith bywyd go iawn sy’n bodloni’r meini prawf. Yn ddelfrydol, dylai ymgeiswyr gwblhau’r fframweithiau prentisiaeth ar Lefelau 2 a 3, a rhaid i’r rhai sydd heb gwblhau’r cymwysterau hyn fod â phrofiad sylweddol o weithio mewn swydd goruchwylio neu reoli gyda’r sector. 

Mae’r rolau swyddi a gwmpesir gan y fframwaith hwn yn cynnwys gweithio gydag oedolion a phlant agored i niwed. 

Mae’r fframwaith yn cynnwys:

  • Llwybr 1 Lefel 4 – Ymarfer Proffesiynol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol
  • Llwybr 2 Lefel 4 – Eiriolaeth Annibynnol, eiriolwr wrth ei waith
  • Llwybr 3 Lefel 4 – Ymarferydd Gwasanaethau Cymdeithasol 
  • Llwybr 4 Lefel 4 – Lleoliad Oedolion / cysylltu bywydau
  • Llwybr 5 Lefel 5 – Arwain a Rheoli Iechyd a Gofal Cymdeithasol: Ymarfer, swydd rheolwr neu ddirprwy reolwr wrth ei waith
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cyfathrebu (gofyniad sylfaenol)
  • Sgiliau Hanfodol Cymru Lefel 2 mewn Cymhwyso Rhif (gofyniad sylfaenol)