Skip to main content
Graduation photo

Graddio

Cafodd seremoni graddio Addysg Uwch 2023 ei chynnal yn adeilad mawreddog Arena Abertawe ac roedd yn achlysur pwysig iawn i gydnabod cyflawniadau rhagorol ein myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe.

Roedd y digwyddiad yn cynnwys araith ysbrydoledig gan y siaradwr gwadd, Carolyn Harris AS, y cyflwynwyd Cymrodoriaeth y Coleg iddi.

Yn ogystal, dangosodd Côr y Coleg a’r Band Jazz eu talentau hynod yn ystod y seremoni a oedd yn brofiad adloniant hyfryd i bawb a fu’n bresennol.

Diolch i bawb a fu’n rhan o’r seremoni hon, lle roeddem yn dathlu nid yn unig llwyddiant academaidd, ond ysbryd bywiog cymuned Coleg Gŵyr Abertawe hefyd.

Darllenwch yr eitem newyddion llawn yma

Os oes gennych unrhyw ymholiadau am y Seremoni Graddio, cysylltwch â graduation@gcs.ac.uk