Cyfrifiadura Cymhwysol HND
Trosolwg
Cwrs amser llawn yw hwn ar gyfer myfyrwyr sydd am brofi ystod eang o Sgiliau Cyfrifiadura a TG a ddefnyddir yn helaeth ym myd diwydiant.
Dylai fod gan fyfyrwyr ddiddordeb mawr mewn Cyfrifiadura/TG a bod yn awyddus i gadw i fyny â’r technolegau diweddaraf a deall lle maen nhw’n bwysig i fodel busnes cwmni. Gall myfyrwyr llwyddiannus symud ymlaen o’r rhaglen yn uniongyrchol i flwyddyn olaf gradd BSc sy’n gysylltiedig â Chyfrifiadura ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Mae’r cwrs yn cwmpasu modiwlau sy’n nodi’r prinder sgiliau mewn TG/Cyfrifiadura, gan gynnwys: sgiliau academaidd a chyflogadwyedd ar gyfer myfyrwyr AU, pensaernïaeth a rhwydweithiau cyfrifiadurol, datblygu meddalwedd, peirianneg gwybodaeth, dadansoddi data a delweddu, technolegau rhyngrwyd a diogelwch, cysyniadau llwybro a switsio, datblygu apiau, systemau rheoli cronfeydd ddata, technolegau gwe, rheoli prosiectau a dulliau ymchwil ac – i’r myfyrwyr hynny sydd â diddordeb mewn dechrau a rhedeg eu busnes eu hunain - mae modiwl menter/arloesi.
Addysgir y rhaglen trwy ddarlithoedd, astudiaethau achos, arddangosiadau ymarferol a sesiynau tiwtorial.
Gwybodaeth allweddol
Meini Prawf Mynediad: |
Tariff UCAS - 48 pwynt |
Safon Uwch - DD/EEE |
Pearson BTEC Diploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 - PPP |
Mynediad i Ddiploma AU - Pas |
Pearson BTEC Diploma Cenedlaethol Lefel 3 - MP |
Sylwch y gallai/dylai pynciau Safon Uwch, Pearson BTEC (Diploma Cenedlaethol/Diploma Estynedig) neu Fynediad i AU gynnwys TGCh, Cyfrifiadura neu debyg. Fodd bynnag, byddai cymwysterau perthnasol eraill yn cael eu hystyried yn amodol ar gyfweliad a phrofiad academaidd perthnasol. Byddwn yn ystyried myfyrwyr hŷn sydd â phrofiad perthnasol ac sydd heb y gofynion mynediad ffurfiol, yn amodol ar gyfweliad. Mae disgwyl i fyfyrwyr feddu ar radd C neu uwch mewn TGAU Mathemateg a Saesneg.
Asesir trwy arholiadau, profion ymarferol ac aseiniadau sy’n briodol i astudiaethau achos perthnasol.
Blwyddyn Un, modiwlau Lefel 4:
- Pensaernïaeth Gyfrifiadurol a Systemau Gweithredu
- Dadansoddi a Delweddu Data
- Cyflwyniad i Gysyniadau Gwe a Chronfa Ddata
- Sgiliau Academaidd a Chyflogadwyedd
- Hanfodion Rhwydwaith a Diogelwch Seiber
- Datblygu Meddalwedd
Blwyddyn Dau, modiwlau Lefel 5:
- Rhwydweithio Uwch
- Prosiect Grŵp Menter ac Arloesedd
- Cronfeydd Data a Datblygu Cymwysiadau
- Diogelwch Data a Chydymffurfio
- Systemau a Gwasanaethau Gweithredu Rhwydwaith
- Technolegau Gwe a Symudol
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS (cod UCAS yw 1358)
Cliciwch yma i wneud cais
Achrediad Dysgu Blaenorol
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS
Y ffioedd ar gyfer y cwrs hwn yw £9,000 y flwyddyn. Gwybodaeth bellach ar gyfer Cymru: http://www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Cael £1,000 bwrsari Coleg bob blwyddyn (yn amodol ar ddilyniant boddhaol)
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:
- Teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
- Costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- Argraffu a rhwymo
- Gynau ar gyfer seremonïau graddio.
*Sylwch fod y ffioedd dysgu a nodir ar gyfer blwyddyn academaidd 2023-24 a gallent gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.