HND mewn Rheoli Busnes
Trosolwg
Gwybodaeth allweddol
Cynnig nodweddiadol yw:
Safon Uwch = DD
BTEC Diploma Estynedig L3 = PPP
BTEC Diploma L3 = MP
Mynediad = Pas
AAT3 = Pas.
Byddwn yn ystyried profiad gwaith perthnasol.
Mae modiwlau arfaethedig yn cynnwys:
Blwyddyn 1 (Lefel 4)
- Rheoli Gwybodaeth Ariannol
- Bod yn Weithiwr Proffesiynol; Ymchwiliad Beiriniadol
- Entrepreneuriaeth a Dechrau Busnes
- Economeg, Y Gyfraith a’r Amgylchedd Busnes
- Pobl, Gwaith a Chymdeithas
- Marchnata ac Ymddygiad Prynwyr
Blwyddyn 2 (Lefel 5)
- Rheoli Pobl mewn Gweithle Byd-eang
- Cyfathrebu Marchnata Creadigol
- Cyfrifeg i Reolwyr
- Dadansoddi Busnes Strategol
- Prosiect Ymchwil Byw
- Y Gweithle Digidol
Fel rhan o’r cwrs hwn mae opsiwn i fod yn dechnegydd cyfrifon cymwysedig trwy AAT.
Ni fyddai unrhyw ffioedd dysgu ychwanegol i astudio AAT Diploma Lefel 2/3 ochr yn ochr â’ch HND ym mlwyddyn un ac AAT Diploma Lefel 3/4 ym mlwyddyn dau, yn dibynnu ar gymwysterau a phrofiad blaenorol.
Addysgir y cwrs dros dri diwrnod. Bydd rhaid i’r myfyrwyr sy’n dewis opsiwn AAT ddod am bedwar diwrnod. Mae opsiwn rhan-amser ar gael hefyd.
.
Ar ôl cwblhau, gall myfyrwyr symud ymlaen i flwyddyn olaf y cwrs BA (Anrh) Rheoli Busnes yng Ngholeg Gwyr Abertawe neu fel arall gallent symud ymlaen i gyrsiau BA (Anrh) ym Mhrifysgol De Cymru.
Sut i wneud cais
Bydd angen i chi wneud cais drwy UCAS (cod UCAS yw NN41)
Cliciwch yma i wneud cais
Achrediad Dysgu Blaenorol
Mae’n bosibl y bydd y myfyriwr yn gallu ennill cydnabyddiaeth ar gyfer dysgu blaenorol. Cysylltwch i gael cyngor os teimlwch y gallai hyn fod yn bethnasol. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yma
Y ffioedd dysgu yw £7,500 y flwyddyn. Ar gyfer blwyddyn academaidd 2023/24, bydd rhaid i fyfyrwyr gael benthyciad ffioedd dysgu am y swm llawn.
Mae’r Coleg yn cynnig bwrsari o £1,000 y flwyddyn tuag at gyrsiau amser llawn (mae hyn yn dibynnu ar ddilyniant
boddhaol ar y cwrs). I gael gwybodaeth am gymorth ariannol – gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu – ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn, h.y.:
- teithio i ac o’r Coleg, neu’r lleoliad
- costau llungopïo, deunydd ysgrifennu ac offer (e.e. ffyn USB)
- argraffu a rhwymo
- gynau ar gyfer seremonïau graddio