Skip to main content

Mae Bws Mawr Melyn Coleg Gŵyr Abertawe ar ei ffordd i Abertawe

Bydd ein Bws Mawr Melyn yn ymweld ag wyth ysgol uwchradd yn Abertawe rhwng 11-14 Gorffennaf, er mwyn sicrhau bod dysgwyr blwyddyn 9 a 10 yn #BarodAmdani ar gyfer dyfodol llwyddiannus.

Byddwn ni hefyd yn cynnal diwrnod cymunedol hefyd ar 15 Gorffennaf, lle bydd y Bws Mawr Melyn yn parcio ar Stryd Rhydychen yng Nghanol Dinas Abertawe, lle gall unrhyw un (o bob oedran) fynd i gael rhagor o wybodaeth am y cyrsiau a’r opsiynau sydd ar gael. 

Ymweliadau Ysgol y Bws Mawr Melyn

Ewch ar y bws i ddarganfod ystod eang iawn o bynciau a llwybrau.

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn credu’n gryf mewn dewis, cyfleoedd a phosibiliadau di-ben-draw. P’un a oes gennych ddiddordeb mewn astudio cyrsiau Safon Uwch, cyrsiau galwedigaethol neu brentisiaethau, mar gennym opsiynau personol i gyd-fynd â’ch uchelgeisiau.

Dyma gyfle perffaith i gael ychydig o eglurder os nad ydych chi’n siŵr pa lwybr i’w ddewis.

Sgwrsiwch â’n darlithwyr profiadol sy’n angerddol am eu pynciau ac sy’n ymroddedig i’ch llwyddiant, a chymerwch ran mewn gweithgareddau a sesiynau blasu sydd wedi’u cynllunio i ddod o hyd i’r hyn rydych chi’n angerddol amdano.

Bydd y Bws Mawr Melyn yn ymweld â’r ysgolion canlynol yn Abertawe:

Dydd Mawrth 11 Gorffennaf
Pontarddulais AM 9.30-11.30am
Penyrheol PM 12.30-2.30pm
Dydd Mercher 12 Gorffennaf
Birchgrove AM 9.30-11.30am
Pentrehafod PM 12.30-2.30pm
Dydd Iau 13 Gorffennaf

Dewch o hyd i’r Bws Mawr Melyn yn Abertawe - Dim ymweliadau ysgol oherwydd streiciau

Dydd Gwener 14 Gorffennaf
Cefn Hengoed AM 9.30-11.30am
Bishopston PM 12.30-2.30pm

Diwrnod Cymunedol y Bws Mawr Melyn yn Stryd Rhydychen

Dydd Sadwrn 15 Gorffennaf, 10-4pm

Dewch i gael cip ar y posibiliadau di-ben-draw y gall y Coleg eu cynnig. Mae croeso i bobl o bob oed ddod i archwilio’r ystod eang o gyrsiau a phosibiliadau sydd ar gael.

P’un a oes gennych ddiddordeb mewn astudio cyrsiau addysg uwch, prentisiaethau, mynediad i addysg uwch, cyrsiau rhan-amser neu gyrsiau ESOL, mae gennym opsiynau sy’n addas ar gyfer pobl o bob gallu, waeth beth fo’u hangerdd/uchelgeisiau.

Mae ein tîm ymroddedig o diwtoriaid profiadol yn barod i’ch helpu chi ar hyd y daith. Byddant yn rhoi’r sgiliau, y gefnogaeth a’r hyder sydd eu hangen arnoch i gyflawni’ch nodau.

Peidiwch â cholli’r cyfle gwych hwn! Ymunwch â ni yng nghanol dinas Abertawe ar ddydd Sadwrn 15 Gorffennaf (10-4pm), lle bydd ein staff cyfeillgar ar gael i ateb unrhyw gwestiynau, darparu gwybodaeth am gyrsiau a’ch helpu i gymryd y cam cyntaf tuag at ddyfodol disglair.

Gyda Choleg Gŵyr Abertawe, rydych chi’n #BarodAmdani!

Rhagor o wybodaeth am gyrsiau i ymadawyr ysgol

Rhagor o wybodaeth am gyrsiau i oedolion