Skip to main content
Bord Gron ar Fenopos yn y Gweithle

Coleg Gŵyr Abertawe’n cynnal digwyddiad bord gron ar fenopos yn y gweithle

Cynhaliodd Coleg Gŵyr Abertawe ddigwyddiad bord gron ar Fenopos yn y Gweithle yn ysgol Fusnes Plas Sgeti yn ddiweddar, gyda hyrwyddwyr menopos y llywodraeth a chyflogwyr allweddol lleol yn bresennol.

Cadeiriwyd y digwyddiad gan Mims Davies AS (Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol a Gweinidog dros Symudedd Cymdeithasol, Ieuenctid a Dilyniant), Helen Tomlinson (Hyrwyddwr Menopos y Llywodraeth a Phennaeth Grŵp Datblygiad Talent - The Adecco Group), Carolyn Harris AS (Cynrychiolydd y Llywodraeth ar gyfer Iechyd Menywod - Cadeirydd Grŵp Menopos Llywodraethol, Hollbleidiol) a Caroline Nokes AS (Cadeirydd Pwyllgor Menywod a Chydraddoldeb).

Canolbwyntiodd y digwyddiad ar fentrau llwyddiannus sy’n cefnogi menywod sy’n mynd drwy’r menopos yn y gweithle a thrafodwyd meysydd i’w gwella. Trafodwyd hefyd yr heriau sefydliadol sydd ynghlwm â chynnig cymorth menopos ac archwiliwyd y posibilrwydd o annog mwy o gyfranogiad gan y llywodraeth. Yn ogystal, pwysleisiodd y digwyddiad bwysigrwydd meithrin cydweithrediad agosach rhwng busnesau a’r llywodraeth at ddibenion ehangu a gwella systemau cymorth ar gyfer menywod sydd yn mynd drwy’r menopos yn y gwaith.