Skip to main content
Grŵp o bobl mewn citiau chwaraeon yn dal medalau a baner

Mae’n amser medalau i dîm Ironman y Coleg!

Llongyfarchiadau i’r holl aelodau staff a gymerodd ran yn nigwyddiad Ironman 2023 ar 3 Medi.

Gyda’i gilydd, cododd tîm CGA y swm anhygoel o £625.06 ar gyfer Prosiect Addysg Gymunedol Cenia – gan dorri eu targed gwreiddiol o £500.

Wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad, buont yn hyfforddi am tua 1,650 o oriau (roedd dros 250 o oriau yn rhan o gynnig Lles CGA) ac, ar y diwrnod, fe wnaethon nhw losgi cyfanswm o 85,000 o galorïau!

Cwblhaodd yr aelodau canlynol o Dîm Ironman CGA y digwyddiad triathlon caled yn llwyddiannus.

  • Tracy Drummond-Govier
  • Christian Regis
  • Wayne Price
  • Laura Thomas
  • Mike Glover
  • Carl Phillips
  • Josh Jordan
  • Tim Buckley

Hoffai tîm CGA ddiolch i’r holl gydweithwyr a wnaeth hyfforddi ochr yn ochr â nhw, rhoi anogaeth bob cam o’r ffordd, a rhoi arian.

A rhaid i ni grybwyll y 100 a mwy o ddysgwyr a gymerodd ran yn y digwyddiad drwy ddylunio’r gwisgoedd a gwneud fideos hyrwyddo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.

Os hoffech chi wneud cyfraniad, cliciwch y linc