Skip to main content
Grŵp o fyfyrwyr / Group of students

Sut i gael dy ganlyniadau arholiadau / cymwysterau Awst 2023 - Diweddariad

Os oes gennyt ti ddiwrnodau canlyniadau penodedig dylet ti gadw llygad allan am wahoddiad gennym ni w/d dydd Llun 7 Awst. Bydd hwn yn rhoi manylion y trefniadau ar gyfer casglu dy ganlyniadau. Y diwrnodau canlyniadau penodedig yw:

Safon Uwch, Galwedigaethol Lefel 3 (fel BTEC,OCR,UAL,NCFE) a Bagloriaeth Cymru
Dydd Iau 17 Awst 2023 (o 9.15am)

TGAU a Galwedigaethol Lefel 2
Dydd Iau 24 Awst 2023 (o 9.15am)

Bydd canlyniadau ar gael hefyd drwy’r e-CDU ar y ddau ddiwrnod.

I gasglu eich canlyniadau, rhaid i chi ddod â Cherdyn Adnabod (ID) sy'n cynnwys eich enw. 

Os na alli di gasglu dy ganlyniadau’n bersonol, bydd angen i ti roi awdurdodiad ysgrifenedig (nid neges destun nac e-bost) i ganiatáu i rywun arall eu casglu ar dy ran. Dylai’r person hwn hefyd ddod â cherdyn adnabod. Ni ellir rhoi canlyniadau dros y ffôn nac e-bost o dan unrhyw amgylchiadau.

Bydd unrhyw ddatganiadau o ganlyniadau sydd heb eu casglu yn cael eu postio i dy gyfeiriad cartref ar brynhawn y diwrnod canlyniadau perthnasol.

Mae rhagor o ganllawiau i’w gweld ar y porth myfyrwyr 

Os nad oes diwrnod canlyniadau penodedig ar gyfer dy gymhwyster, bydd dy ganlyniadau’n ymddangos ar dy e-CDU pan fyddant ar gael a byddi di’n derbyn dy dystysgrif gyda’r post.

Wyt ti wedi newid dy gyfeiriad yn ddiweddar? Os felly, cysyllta â Enrolment@gcs.ac.uk cyn 15 Awst 2023 er mwyn diweddaru dy gofnodion.