Skip to main content
Tri o bobl yn sefyll y tu allan i adeilad coleg

Coleg Gŵyr Abertawe yn Lansio Ymgyrch i Gefnogi Myfyrwyr yn ystod Arholiadau ac Asesiadau

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi lansio’r ymgyrch ANADLWCH i helpu myfyrwyr i leihau straen a rheoli unrhyw orbryder sydd ganddynt yn ystod y cyfnod arholiadau ac asesiadau sydd ar ddod.

Gyda myfyrwyr yn dod i ddiwedd eu hastudiaethau, mae llawer yn teimlo dan bwysau i sicrhau’r graddau sydd eu hangen arnynt i fynd i’r coleg, y brifysgol, neu symud ymlaen i fyd gwaith. O ystyried y cyfuniad o ddisgwyliadau gan rieni, athrawon a hunanddisgwyliadau, llwyth gwaith cynyddol ac ansicrwydd ynghylch y dyfodol, mae’r pwysau ychwanegol a wynebir yn ystod y cyfnod arholiadau ac asesiadau yn gallu gwaethygu straen a gorbryder yn sylweddol.  

Canfu arolwg a gynhaliwyd gan elusen YoungMinds fod 80% o bobl ifanc yn y DU yn dweud bod y pandemig hefyd wedi gwneud eu hiechyd meddwl yn waeth, gyda straen arholiadau ac asesiadau yn ffactor arwyddocaol. 

Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r cynnydd mewn gorbryder a straen, mae Coleg Gŵyr Abertawe yn cyflwyno tips a strategaethau i’w fyfyrwyr i’w helpu i adolygu, trwy’r ymgyrch ‘ANADLWCH’.

A - Anadl – cymer anadl ddofn cyn bwrw ati!
N - Nodiadau – cofia edrych dros dy nodiadau
A - Archwilio – archwilia’r testunau yn fwy manwl – chwilia am ffaith ddifyr i dy helpu di i gofio! 
D - Dysgu – gofyn gwestiynau ffug i ti dy hun, beth wyt ti wedi’i ddysgu hyd yma? 
L - Les – bydd cymryd hoe o dy waith adolygu yn gwneud byd o les i ti
W - Wynebu – wyneba’r hyn rwyt ti wedi’i anghofio neu sy’n anodd
Ch - Chwarae – chwarae ran weithredol yn dy waith adolygu gan nodi’r uchafbwyntiau

Dywedodd Joshua Jordan, Rheolwr Profiad a Lles y Dysgwr, yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Rydyn ni wedi lansio’r ymgyrch ANADLWCH ar draws ein cyfryngau cymdeithasol i atgoffa myfyrwyr o’r camau bach y gallan nhw eu cymryd i leddfu eu gorbryder yn ystod y cyfnod anodd hwn. 

“Mae’r cyfnod hwn yn eu gyrfa academaidd yn gallu teimlo mor llethol a hwythau yn ei chanol hi, ond trwy edrych ar ôl eu hiechyd meddwl a rhoi dulliau ymdopi a strategaethau adolygu defnyddiol ar waith, gall myfyrwyr ragori ymhellach eto.”

Dywedodd Fatima Lopes, Llywydd Undeb y Myfyrwyr yng Ngholeg Gŵyr Abertawe: “Fel cyn-fyfyriwr Coleg Gŵyr Abertawe, dwi’n deall yn llwyr y straen y mae myfyrwyr yn ei wynebu ar hyn o bryd cyn yr arholiadau a’r asesiadau. Pan ydych chi yn ei chanol hi, mae popeth yn teimlo mor hanfodol bwysig a gall hyn wneud i chi deimlo dan bwysau mawr ar gyfer y dyfodol, ond cofiwch fod yna lawer o gymorth ar gael yn ystod y cyfnod hwn a thrwy gydol y flwyddyn. 

“Ochr yn ochr â’r ymgyrch ANADLWCH, bydd Undeb Myfyrwyr Coleg Gŵyr Abertawe yn clywed gan y myfyrwyr ynghylch yr hyn a fyddai’n ddefnyddiol iddyn nhw cyn yr arholiadau a’r asesiadau. Mae’n cynllunio sesiynau ychwanegol hefyd yn ystod y cyfnod hwn fel boreau coffi, sesiynau galw heibio, a mwy.” 

Dywedodd Kelly Fountain, Pennaeth Coleg Gŵyr Abertawe: “Mae edrych ar ôl iechyd meddwl a lles ein myfyrwyr mor bwysig, yn enwedig yn ystod cyfnod yr arholiadau a’r asesiadau. 

“Rydyn ni hefyd yn atgoffa myfyrwyr y gallan nhw gael mynediad at gyfoeth o gymorth drwy gydol y flwyddyn gan ein timau dysgu a bugeiliol ardderchog, ochr yn ochr â’r fenter wych ANADLWCH.

“Rydyn ni hefyd yn annog y disgyblion hynny yn yr ysgol i ddilyn ein tips ANADLWCH hefyd, a’u hatgoffa bod gan Goleg Gŵyr Abertawe ddewis iddyn nhw, ni waeth pa raddau maen nhw’n eu cael, a gallwn ni eich helpu a’ch cefnogi i gyrraedd lle rydych chi am fod.”

Rhagor o wybodaeth i ymadawyr ysgol

Gwnewch gais nawr