Skip to main content

Coleg yn falch o noddi Gwobrau Plant Cymru 2024

Child of Wales Awards 2024

Mae Coleg Gŵyr Abertawe yn falch iawn o gyhoeddi ein partneriaeth â Gwobrau Plant Cymru 2024. Fel noddwr y Wobr Elusen Ragorol, rydym yn ymrwymedig i gefnogi mentrau sy’n cydnabod ac yn dathlu cyflawniadau nodedig plant a phobl ifanc ar draws Cymru. 


Digwyddiad blynyddol yw Gwobrau Plant Cymru sy’n cydnabod y dewrder, gwydnwch a’r trugaredd a ddangosir gan unigolion ifanc o fewn eu cymunedau. O weithredoedd dewr i ymdrechion elusennol rhagorol, mae’r gwobrau yn craffu ar gyflawniadau rhagorol plant a phobl ifanc sy’n ein hysbrydoli.


Eleni, bydd Gwobrau Plant Cymru yn cael ei gynnal yn Arena Abertawe ar 27 Medi, 2024. Mae’r digwyddiad yn argoeli i fod yn achlysur i’w gofio a bydd yn dod ag unigolion, teuluoedd a sefydliadau ledled Cymru ynghyd i ddathlu cyflawniadau rhagorol ein hieuenctid.


Cadwch lygad allan am ddiweddariadau ynghylch Gwobrau Plant Cymru 2024, ac ymunwch â ni i ddathlu cyflawniadau gwych plant a phobl ifanc sy’n parhau i gael effaith gadarnhaol ar ein cymunedau.


I archebu tocyn, enwebu unigolion ar gyfer un o’r categorïau neu i gael mwy o wybodaeth, cliciwch yma.