Skip to main content
Noson arbennig i brentisiaid, cyflogwyr a thiwtoriaid disglair

Noson arbennig i brentisiaid, cyflogwyr a thiwtoriaid disglair

Mae Coleg Gŵyr Abertawe wedi cynnal seremoni wobrwyo arbennig yn Stadiwm Swansea.com fel rhan o Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024.

Roedd y digwyddiad yn anrhydeddu ymrwymiad ac ymroddiad rhagorol prentisiaid y Coleg, staff a phartneriaid cyflogwyr o bob cwr o Gymru a Lloegr, ac wrth y llyw roedd y cyflwynydd/darlledwr Ross Harries, sydd wedi bod yn wyneb rygbi Cymru am fwy na degawd.

Siaradwr gwadd y noson oedd Lucy Cohen, cyd-sylfaenydd a phrif swyddog gweithredol Mazuma, y gwasanaeth cyfrifyddu cyntaf sy’n seiliedig ar danysgrifiadau ar gyfer busnesau bach a microfusnesau.

“Mae prentisiaethau yn flaenoriaeth allweddol i lawer o gyflogwyr o ran diwallu’r sgiliau sydd eu hangen i ddatblygu a thyfu eu busnesau, ac rwyf wrth fy modd, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diwethaf, bod y Coleg wedi gallu ymateb i’r galw hwn,” meddai’r Pennaeth Kelly Fountain.

“Heddiw mae gennym dros 3,000 o brentisiaid ar unrhyw un adeg, ond rwyf hefyd yn falch iawn o adrodd bod ansawdd y ddarpariaeth hefyd wedi cryfhau gyda’n prentisiaid, ein staff a’n rhaglenni yn cael eu cydnabod yng Nghymru yng Ngwobrau Prentisiaethau Cymru a Gwobrau Tiwtoriaid Ysbrydoli, ond hefyd ledled y DU yng Ngwobrau AB y Times Educational Supplement (TES), Gwobrau’r Gynhadledd Prentisiaethau Flynyddol (AAC), a Gwobrau Beacon Cymdeithas y Colegau (AOC).

“Mae llawer o’n dysgwyr yn cymryd rhan mewn cystadlaethau Worldskills hefyd, ac felly rydyn ni’n falch o gyfrannu at y llwyfan cenedlaethol a rhyngwladol.”

Ein prentisiaid y flwyddyn 2024 yw:

Prentis y Flwyddyn Cyfrifeg - Lisa Bakker
Prentis y Flwyddyn Arweinyddiaeth Gweithgarwch/Datblygu Chwaraeon - Ioan Elli Evans
Prentis y Flwyddyn Amgylchedd Adeiledig - Sam Milligan
Prentis y Flwyddyn Gweinyddu Busnes - Hayley Whitworth
Prentis y Flwyddyn Gwella Busnes ac Ansawdd - Brian Thomas
Prentis y Flwyddyn Gofal Plant/Cymorth Addysgol - Molly Collins
Prentis y Flwyddyn Peirianneg Sifil - James White
Prentis y Flwyddyn Datblygiad Cymunedol - Danielle Hartery
Prentis y Flwyddyn Adeiladu - Ashton Kime
Prentis y Flwyddyn Canolfan Gyswllt - Logan Hocking
Prentis y Flwyddyn Cyfryngau Creadigol a Digidol - Alexander Thomas
Prentis y Flwyddyn Gwasanaeth Cwsmeriaid - Kian Pickman
Prentis y Flwyddyn Dylunio Dysgu Digidol - Elena Amado
Prentis y Flwyddyn Electroneg - Daniel Griffiths
Prentis y Flwyddyn Peirianneg a Cherbydau Modur - Thomas Harmer
Prentis y Flwyddyn Rheoli Cyfleusterau ac Adnoddau - Cynyrluis Fry
Prentis y Flwyddyn Ffasiwn a Thecstilau - Vicki Browning
Prentis y Flwyddyn Gofal Iechyd - Lisa Taylor
Prentis y Flwyddyn Tai - Carys Evans
Prentis y Flwyddyn Gwybodaeth, Cyngor a Chyfarwyddyd - Duncan Jones 
Prentis y Flwyddyn TG a Digidol - Katie Davies
Prentis y Flwyddyn Labordy a Gwyddoniaeth - Georgia Cox
Prentis y Flwyddyn Rheoli a Datblygu - Damian Aston
Prentis y Flwyddyn Gofal Cymdeithasol - Tegan Gray

Prentis y Flwyddyn Arbenigwr Gwasanaeth Cwsmeriaid (Lloegr) – George Ferguson
Prentis y Flwyddyn Peirianneg Gwasanaethu a Gosod Cynnyrch Trydanol, Electronig (Lloegr) – Lewis Chacksfield
Prentis y Flwyddyn Rheoli Cyfleusterau (Lloegr)  – Muminur Islam
Prentis y Flwyddyn Rheolaeth (Lloegr) - Daniel Loucas

Prentis Sylfaen y Flwyddyn - Isaac Fabb
Prentis y Flwyddyn - Sarah Price 
Prentis Uwch y Flwyddyn - Georgia Cox
Prentis y Flwyddyn (Lloegr) - Muminur Islam
Gwobr Cyflawniad Eithriadol Prentis - Lisa Taylor

Tiwtor/Aseswr Prentisiaeth y Flwyddyn - Constance Henry
Tiwtor/Aseswr Prentisiaeth y Flwyddyn (Lloegr) - Steve Williams
Tîm Prentisiaeth y Flwyddyn - Emma Davies and Gwyneth Morgan-Chan

Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn (1-49 o weithwyr) -  Zygo Media
Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn (50-249 o weithwyr) - Merthyr Valley Homes
Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn (250+ o weithwyr)  – Heddlu De Cymru
Cyflogwr Prentisiaid y Flwyddyn (Lloegr) – Paragon Customer Communications
Hyrwyddwr Cyflogaeth Prentisiaid y Flwyddyn– Candy Passmore

Pencampwr Cymraeg Gwobr Prentis - Sarah Bowkett
Pencampwr Cymraeg Gwobr Prentisiaeth Cyflogwr - Hollow Pixel
Pencampwr Cymraeg Gwobr Prentisiaeth Tiwtor/Aseswr - Marie Allen

Diolch yn fawr iawn i Fand Jazz Campws Gorseinon, dan arweiniad Simon Prothero, am ddarparu’r adloniant wrth i bawb gyrraedd, a’n myfyrwyr Lefel 3 Cynhyrchu Theatr a Digwyddiadau Byw, dan arweiniad Adrian Hocking ac Andrew Murray, am eu gwaith gwych ar y set, y goleuadau a’r sain.

Roedd y digwyddiad yn rhan o amrywiaeth eang o weithgareddau a drefnwyd gan y Coleg i ddathlu Wythnos Prentisiaethau Cymru 2024.

Ar 7 Chwefror, cynhaliodd y Coleg noson agored arbennig i bobl sydd â diddordeb mewn prentisiaethau. Roedd y digwyddiad yn llwyddiant ysgubol, gyda thros 500 yn dod i sgwrsio â darlithwyr a chyflogwyr.