HNC Peirianneg Drydanol ac Electronig
Rhan-amser
Lefel 4
UoWTSD
Tycoch
two years
Ffôn:
01792 284000 (Tycoch)
E-bost: enquiries@gcs.ac.uk
Trosolwg
Gwybodaeth allweddol
Dwy radd Safon Uwch (o leiaf radd C mewn mathemateg a phwnc gwyddoniaeth), BTEC Lefel 3 neu’r cyfwerth. Bydd rhaid i bob myfyriwr ddod am gyfweliad.
Addysgir y cwrs dros un diwrnod yr wythnos (ar hyn o bryd dydd Llun ar gyfer y flwyddyn gyntaf a dydd Mercher ar gyfer yr ail flwyddyn).
Modiwlau’r flwyddyn gyntaf:
- mathemateg
- egwyddorion trydanol ac electronig
- cymwysiadau peirianneg a sgiliau astudio
Modiwlau’r ail flwyddyn:
- dylunio gosodiadau trydanol
- micros, perifferolion a rhyngwynebau
- dynameg, rheolaeth ac offeryniaeth
Mae’r cymhwyster yn agor cyfleoedd gyrfa mewn ymgynghori, contractio a gweithgynhyrchu yn y sector cyhoeddus a’r sector preifat. Gall myfyrwyr hefyd symud ymlaen i’r HND ac wedi hynny byddent yn cael cyfle i symud ymlaen i’r BEng ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant.
Achrediad Dysgu Blaenorol
Mae Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn croesawu ceisiadau ar sail dysgu blaenorol. Mae rhagor o fanylion i’w gweld yn y Swyddfa Academaidd | PCDDS
O fis Medi 2023, y ffioedd dysgu ar gyfer y cwrs yw £2100 y flwyddyn. I gael gwybodaeth am gymorth ariannol, gan gynnwys benthyciadau ffioedd dysgu a grantiau ffioedd, ewch i www.cyllidmyfyrwyrcymru.co.uk
Mae’n bosibl y bydd costau ychwanegol cysylltiedig â’r cwrs hwn:
• teithio i ac o’r coleg, neu’r lleoliad
• llungopïo, deunydd ysgrifennu a chostau offer (e.e. cofau bach)
• argraffu a rhwymo
• gynau ar gyfer seremonïau graddio
*Sylwch y gallai’r ffioedd dysgu a nodir gynyddu ar gyfer blynyddoedd astudio yn y dyfodol. Ewch i wefan y brifysgol i gael rhagor o wybodaeth.