Skip to main content

Adrodd Storïau a Yrrir gan Ddata

Rhan-amser
Online
16 wythnos

Arolwg

Gyda dyfodiad marchnata digidol a’i weddau niferus megis SEO, ysgrifennu cynnwys, CRO a datblygu’r we, mae wedi dod yn llawer mwy pwysig i ddeall eich cynulleidfa ac ymgysylltu â nhw i gael unrhyw obaith o dyfu o fewn eich brand.

Er ein bod yn byw mewn cymdeithas sy’n casglu data ar gyfradd mwy a mwy cyflym, mae deall a defnyddio’r data hyn yn sgìl allweddol sydd, yn anffodus, ar goll yn y mwyafrif o gwmnïau. Ar y cwrs hwn byddwch yn darganfod gwyddor adrodd storïau a yrrir gan ddata a fydd yn datrys yr hyn y mae peiriannau chwilio yn ei wybod am eich brand a sut i arfer y pŵer hwn i gyrraedd cwsmeriaid newydd a chael mantais sylweddol dros eich cystadleuwyr.

Y dull hwn a yrrir gan ddata fydd yn arwain at newid sylfaenol ar gyfer brandiau lle, os nad ydych chi ar-lein, nid ydych chi’n mynd i oroesi.

Bwriedir y cwrs hwn i’r rhai sy’n berchen ar frand neu’n gweithio iddo o fewn marchnad gystadleuol ac sy’n dymuno codi eu safle marchnata i ychwanegu mwy o werth i’w llinell waelod. P’un a yw hyn yn werthiant ychwanegol neu’n ymwybyddiaeth brand, byddwn yn dangos i chi sut i sefyll allan mewn marchnad orlawn sy’n cynyddu o hyd.

Mae hwn yn gwrs ymarferol a damcaniaethol a fydd yn rhoi’r gallu i chi greu cynnwys o safon uchel sy’n ennyn diddordeb eich cynulleidfa darged ac yn cysylltu â  nhw.

Bydd y cwrs hwn yn canolbwyntio ar ddarganfod termau graddio o safon uchel trwy ddata gweithredadwy a darparu gwybodaeth angenrheidiol ynghylch sut mae’ch brand yn perfformio a lle y gall dreiddio i farchnadoedd newydd a phresennol yn llwyddiannus.

  • Cloddio ac archwilio data i fod yn sail i’ch gwaith ymchwil
  • Deall y dadansoddiad sylfaenol a yrrir gan ddata o fewn Excel i ddarganfod eich ‘stori’
  • Deall sut i ennyn diddordeb ymwelwyr trwy ddehongli’r data a gwneud argymhellion
  • Ysgrifennu adroddiad o’ch canfyddiadau a pharatoi’r rhain i’w rhannu
  • Datblygu cynllun gweithredu i roi’ch canfyddiadau ar waith
  • Mesur a gwella perfformiad trwy ddadansoddiad parhaus

Gan gyfuno priodoleddau gorau marchnata digidol ac SEO, byddwch yn darganfod eich llwybr at lwyddiant ar-lein. Yn seiliedig ar flynyddoedd o brofiad ymarferol a llwyddiant ar draws sawl sector, byddwch yn ennill y sgiliau i hyrwyddo’ch brand.

Gwybodaeth allweddol

Caiff y cwrs ei fapio i anghenion yr unigolyn i ddarparu perthnasedd a gwerth ymarferol.

Dylai ymgeiswyr fod yn hyddysg mewn cyfrifiadura a dylent fod yn barod i gynnal astudiaeth annibynnol y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

  • Mae mynediad at liniadur a ffôn clyfar.
  • Disgwylir i ddysgwyr brynu cardiau cof addas ar gyfer storio a throsglwyddo cyfryngau.
  • Bydd defnyddio cyfrif Microsoft, ac yn benodol, Excel yn ofynnol.
  • Bydd mynediad at asedau Gwgl fel Search Console a Google Analytics yn ofynnol
  • Parodrwydd ac awydd i ddyrchafu’ch brand.

Bydd y cwrs yn seiliedig ar brosiectau a chaiff ei ategu gan ddefnyddio technolegau dysgu digidol. Pan fo’n briodol, bydd y cymwysiadau a ddefnyddir yn gymysgedd o feddalwedd rhad ac am ddim, taledig a ‘freemium’. Addysgir y cwrs dros 16 wythnos (pedair awr yr wythnos). Bydd yn cynnwys dwy awr o ddysgu ar-lein un noson yr wythnos a dwy awr o waith ymchwil / paratoi gan y dysgwyr yn barod ar gyfer y wers nesaf.