Skip to main content

Paratoi ar gyfer Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant Lefal 4

Rhan-amser, Prentisiaeth
Lefel 4
Tycoch
Un flwyddyn
Ffôn: 01792 284000 (Tycoch)

Arolwg

Bwriad y cymhwyster cynhwysfawr hwn yw rhoi’r sgiliau hanfodol, yr wybodaeth a’r strategethau angenrheidiol sydd eu hangen ar ddarpar arweinwyr a rheolwyr er mwyn rhagori yn eu rolau mewn amgylcheddau sy’n canolbwyntio ar blant.

Amcanion

  • Ennill dealltwriaeth o hanfodion arweinyddiaeth  
  • Dysgu technegau rheoli effeithiol
  • Archwilio cyfnodau datblygu plant a dysgu seiliedig ar chwarae  
  • Deall y fframweithiau cyfreithiol a rheoleiddiol  
  • Meistroli sgiliau cyfathrebu  
  • Archwilio strategaethau i greu ymarfer cynhwysol. 

Canlyniadau  

  • Bydd dysgwyr yn datblygu sgiliau meddwl beirniadol i fynd i’r afael â heriau ac addasu i sefyllfaoedd sy’n datblygu 
  • Darganfod dulliau o dyfu yn bersonol fel arweinydd a rheolwr mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant
  • Meddu ar gymhwyster cydnabyddedig sy’n agor drysau i rolau arweinyddiaeth mewn sefydliadau amrywiol sy’n canolbwyntio ar blant. 

Gwybodaeth allweddol

Rhaid i ddysgwyr ddod i gyfweliad gyda’r tîm gofal plant a bydd cynigion cwrs yn amodol ar brawf sgrinio llythrennedd byr. 

Addysgir y cwrs dros un flwyddyn academaidd, wyneb yn wyneb ar Gampws Tycoch am un noson yr wythnos. Cewch eich addysgu gan ddarlithwyr profiadol yn y maes sy’n gallu cefnogi eich proses dysgu ac asesu. Bydd dysgwyr hefyd yn cael cynnig amrywiaeth eang o arfau dysgu ar-lein sy’n gallu eich helpu i ddatblygu eich gwybodaeth a’ch sgiliau ymhellach yn eich amser eich hun. Asesir y cwrs trwy nifer o dasgau gwahanol yn y dosbarth gyda chymysgedd o dasgau wedi’u hasesu yn fewnol ac yn allanol. 

Os byddwch yn cwblhau’r cwrs hwn yn llwyddiannus, cewch gyfleoedd i symud ymlaen i’r canlynol:

Addysg Bellach: Lefel 5 Arweinyddiaeth a Rheolaeth mewn Gofal, Chwarae, Dysgu a Datblygiad Plant

Cyflogaeth:

  • Darpar Reolwyr a Chyfarwyddwyr Canolfannau Gofal Plant  
  • Addysgwyr Plentyndod Cynnar  
  • Arbenigwyr Datblygu Plant  
  • Therapyddion Chwarae  
  • Swyddogion Gweinyddol Addysg.

Bydd angen cwblhau gwiriadau DBS am gost ychwanegol

Yn achos dysgwyr nad ydynt mewn cyflogaeth mewn lleoliad perthnasol ar hyn o bryd, mae’n bosibl y bydd gofyn iddynt wneud oriau mewn lleoliad i gael y profiad perthnasol sydd ei angen ar gyfer tasgau’r dosbarth.

Bydd gan ddysgwyr fynediad i gymorth wedi’i deilwra a chyfleusterau coleg yn ogystal ag amrywiaeth eang o arfau dysgu ar-lein.