Skip to main content

Ysgrifennu a Dylunio ar gyfer y Cyfryngau Cymdeithasol

Rhan-amser
Gorseinon
10 wythnos
Ffôn: 01792 890700 (Gorseinon)

Arolwg

Ar y cwrs hwn caiff ymgeiswyr eu cyflwyno i amrywiaeth o brofiadau, gan archwilio ystod o gyfryngau cymdeithasol, technegau a phrosesau dylunio ac ysgrifennu. Byddan nhw’n archwilio ac yn datblygu dealltwriaeth o blatfformau cyfryngau cymdeithasol poblogaidd yn ogystal â thechnolegau digidol newydd sydd ar y gweill.

Bydd ymgeiswyr yn datblygu amrywiaeth mawr o sgiliau a fydd yn gwella eu gallu i greu cynnwys ar-lein  diddorol ac amlbwrpas. Bydd dysgwyr hefyd yn archwilio strategaethau cyfryngau cymdeithasol, defnyddwyr ac adnoddau sy’n gysylltiedig ag ystod o gynnwys ar-lein, o ddigwyddiadau presennol a’r gorffennol, gan gynnwys enghreifftiau lleol a byd-eang.

Gwybodaeth allweddol

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Addysgir y cwrs yn yr ystafell ddosbarth, 2.5 awr yr wythnos. Mae hyn yn gyfanswm o 25 awr o amser gwersi dros gyfnod o 10 wythnos. Er bydd yr amserlen hon yn rhoi modd i ddysgwyr gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, mae’n hanfodol bod myfyrwyr yn treulio amser ychwanegol bob wythnos yn datblygu cynnwys, i sicrhau lefelau uchel o lwyddiant. 

Mae’r aseiniadau a gynhyrchir gan fyfyrwyr yn cael eu hasesu’n barhaus, ond rhoddir marc cyffredinol pan fydd y prosiectau wedi’u cwblhau a’u cyflwyno. Nid oes arholiad ysgrifenedig, ond mae myfyrwyr yn cael eu hasesu ar yr elfennau ysgrifenedig yn y gwaith cwrs. 

Mae’r cwrs hwn yn gymhwyster anachrededig a fydd yn rhoi portffolio cryf o waith y cyfryngau cymdeithasol i ddysgwyr, a gwybodaeth uwch o gymhwyso’r cyfryngau cymdeithasol yn y farchnad gystadleuol sydd ohoni.

Meysydd astudio

Bydd ymgeiswyr yn datblygu sgiliau a dealltwriaeth mewn amrywiaeth o feysydd cysylltiedig â chynhyrchu yn y cyfryngau cymdeithasol, megis y rhai a restrir isod:

  • Creu brand llafar a gweledol
  • Sgiliau dylunio graffig
  • Ymchwil marchnata a chynulleidfa
  • Ffotograffiaeth a fideo ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol
  • Strategaethau rhyngweithio cyfathrebu a chynulleidfa.

Sgiliau a thechnegau

Bydd disgwyl i ymgeiswyr ddangos sgiliau, yng nghyd-destun ysgrifennu a dylunio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol a:

  • Dealltwriaeth o elfennau ac egwyddorion dylunio, cyfansoddi, teipograffeg a lliw a’u cymhwyso o fewn fformat y cyfryngau cymdeithasol.
  • Y gallu i ddatblygu cynnwys llafar ac ysgrifenedig effeithiol i gynyddu ymgysylltiad y gynulleidfa.
  • Ymwybyddiaeth o’r gynulleidfa darged neu’r diben ar gyfer eu dewis maes y cyfryngau cymdeithasol.
  • Gallu i ymateb i fater, cysyniad neu syniad, gan weithio ar atebion creadigol sy’n ateb anghenion a gofynion presenoldeb effeithiol ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Gwybodaeth o feddalwedd allanol a’i gymhwysiad i wella amlbwrpasedd eich cynnwys ar-lein.

Gwybodaeth a dealltwriaeth:

  • Sut y gall syniadau, teimladau ac ystyron gael eu cyfleu a’u dehongli ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Datblygiadau hanesyddol a chyfoes, a chymwysiadau y gwahanol blatfformau cyfryngau cymdeithasol a’u defnydd yn y farchnad sydd ohoni.
  • Cryfderau a gwendidau platfformau cyfryngau cymdeithasol unigol a’u materion.
  • Parhad a newid gwahanol ddulliau, genres, a thraddodiadau sy’n berthnasol i’r cyfryngau cymdeithasol.
  • Yr eirfa weithredol a therminoleg arbenigol sy’n berthnasol i’w dewis maes/meysydd y cyfryngau cymdeithasol.
  • Seicoleg cynulleidfa a sut i ddenu diddordeb y defnyddiwr gweithredol.

Nodau’r cwrs

Mae’r cwrs hwn wedi cael ei greu a’i ddatblygu i annog ymgeiswyr i ddatblygu:

  • Sgiliau deallusol, dychmygol, a chreadigol.
  • Diddordeb mewn, brwdfrydedd dros, a mwynhau ysgrifennu a dylunio cynnwys y cyfryngau cymdeithasol.
  • Profiad o weithio gydag amrywiaeth mawr o gyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys technolegau a meddalwedd cyfoes ac ar y gweill.
  • Datblygu sgiliau celfyddydol a fydd yn eich cynorthwyo i gynhyrchu cynnwys diddorol.
  • Deall a chymhwyso brandio ar gyfer y cyfryngau cymdeithasol.
  • Ymwybyddiaeth o rolau, swyddogaethau, marchnadoedd, cynulleidfaoedd, a defnyddwyr y cyfryngau cymdeithasol.

Rhaid i fyfyrwyr ddod â phecyn offer sylfaenol gyda nhw gan gynnwys pensiliau, pennau, pren mesur, rwber, pad ysgrifennu a llyfr braslunio A4 pan fydd dosbarth gyda nhw. Bydd rhestr o eitemau hanfodol yn cael ei rhoi ar ddechrau’r cwrs.